Figuig

dinas, Morocco From Wikipedia, the free encyclopedia

Figuig
Remove ads

Dinas werddon yn nwyrain Moroco yw Figuig (Berbereg: Afgig). Fe'i lleolir yn rhanbarth L'Oriental ger y ffin ag Algeria, ar ymyl y Sahara a rhyw 200 km i'r dwyrain o Fynyddoedd yr Atlas.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Golygfa ar werddon Figuig
Thumb
Golygfa arall ar werddon Figuig

Pobl Berber yw trwch y boblogaeth ac Amazigh, un o'r ieithoedd Berber yw iaith y mwyafrif. Rhennir y dref yn saith gymuned draddodiadol (igherman), sef yr At-Wadday, At-Amar, At-Lamiz, At-Sliman, At-aNaj, At-Addi, a'r Iznayen. Mae'r cymunedau hyn yn byw mewn ardaloedd neilltuol yn y werddon o gwmpas trefi caerog bychain (ksours). Bu cryn ymrafael ar adegau rhwng y cymunedau am reolaeth ar dir y werddon.

Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant o hyd, gyda thyfu dêts yn dominyddu. Oherwydd prinder gwaith mae llawer o'r trigolion ifainc wedi symud i weithio tramor.

Yn y gorffennol bu cymuned o Iddewon yn Figuig, fel yn achos sawl gwerddon arall yn y Sahara. Ni wyddys pryd cyrhaeddodd yr Iddewon, ond gadawodd y teuluoedd olaf yn y 1950au pan ymfudodd miloedd o Iddewon o'r Maghreb. Yn Figuig heddiw does dim un Iddew ar ôl, ond ceir dwy fynwent Iddewig, un ger ksour Ouled Slimane ac El Maiz, a'r llall ger Zenaga. Mae'r mynwentydd hyn a'r wybodaeth am yr ardaloedd o fewn y ksours a neilltuwyd i'r Iddewon yn dangos fod y gymuned yn rhan o fywyd ynysig Figuig am ganrifoedd. Roedd y mwyafrif yn gweithio fel crochenwyr, gofion, teilwriaid a gemyddion.[1]

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads