Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Fflandrysiaid neu Ffleminiaid de Penfro yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y Ffleminiaid a ymsefydlodd yn ne Penfro yn y 12g gan drawsnewid iaith a diwylliant yr ardal am byth.
Ceir y cyfeiriad cyntaf atynt ym Mrut y Tywysogion am y flwyddyn 1108. Mae'r brut yn cofnodi fel y daeth y Ffleminiaid (pobl "o darddiad ac arferion rhyfeddol") i Ddyfed ar orchymyn y brenin Eingl-Normanaidd Harri I o Loegr. Â'r croniclydd yn ei flaen i ddweud eu bod wedi cipio'r cyfan o gantref Rhos ac wedi gyrru allan y trigolion gwreiddiol i gyd.[1]
Daeth y Ffleminiaid hyn o Loegr, lle ceir cofnodion iddynt ymsefydlu yn rhannau dwyreiniol y wlad yn y ganrif flaenorol. Bwriad Harri I oedd disodli'r Cymry Dyfed o'u tiroedd a chreu "ardal glustog" rhwng Normaniaid y de, bychan mewn nifer, a'r Cymry. Ymddengys fod grwpiau eraill wedi dod drosodd ar ôl hynny yn uniongyrchol o Fflandrys fel y bobl a ddilynai Wizo, a fyddai'n arglwydd cantref Daugleddau yn nes ymlaen.
Roedd ymsefydliad y Ffleminiaid yn ne Penfro yn rhan o bolisi a fyddai'n cael ei disgrifio fel glanhau ethnig neu hil-laddiad heddiw. Mae'r hanesydd Normanaidd Ordericus yn cofnodi fod y Ffleminaid yn "lladd y Cymry (Guali Britones) fel cŵn."[2] Nid oedd y Cymry lleol yn barod i ildio heb ymladd a nodweddwyd gweddill y 12g gan ryfel herwfilwrol ar raddfa eang rhang y Ffleminiad a'r Cymry. Ar ddiwedd y ganrif mae Gerallt Gymro yn nodi'r elyniaeth agored rhwng y Cymry a'r Ffleminaid.
Cymuned ar wahân oedd y Ffleminiaid. Ni fu cymathu o gwbl (gwahanol oedd hanes y Normaniaid; roedd Gerallt Gymro yn fab i Gymraes a Normaniad, er enghraifft). Roeddent yn arfer eu hiaith eu hunain (Fflemeg), ac yn cael eu dynodi ar wahân yn y gyfraith. Ymledasant o gantref Rhos i ardal Daugleddau, Talacharn a rhannau eraill o dde Penfro.
Parhaodd y Ffleminiaid yn gymuned ar wahân am rai canrifoedd. Yn ddiweddarach caent eu cofnodi fel unedau arbennig ym myddinoedd y Saeson yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, e.e. ym mrwydr Hyddgen yn 1401.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.