From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a phlwyf sifil yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Eton.[1] Saif ar lan Afon Tafwys gyferbyn a Windsor, ac yn cysylltu ag e gyda Phont Windsor. Mae'n gorwedd o fewn hen ffiniau Swydd Buckingham ond daeth yn rhan o Berkshire yn 1974. Ers 1998, mae'n ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead.
Math | tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead |
Poblogaeth | 5,122 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Berkshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.4881°N 0.6092°W |
Cod SYG | E04001217 |
Cod OS | SU965775 |
Cod post | SL4 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,692.[2]
Mae Caerdydd 178 km i ffwrdd o Eton ac mae Llundain yn 35.2 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 33 km i ffwrdd.
Mae'r dref yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad Coleg Eton, ysgol fonedd enwog. Yn Eton y ganwyd George E. Davis, un o sefydlwyr Peirianeg Cemegol.
Daw'r enw 'Eton' o'r Hen Saesneg Ēa-tūn, = Tref-Afon, h.y. Tref ar Afon Tafwys.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.