Eric Liddell

From Wikipedia, the free encyclopedia

Eric Liddell

Roedd Eric Henry Liddell 16 Ionawr 190221 Chwefror 1945) yn Genhadwr Cristionogol o'r Alban, yn athletwr Olympaidd ac yn chwaraewr Rygbi Rhyngwladol[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Eric Liddell
Thumb
Ganwyd16 Ionawr 1902 
Tianjin 
Bu farw21 Chwefror 1945 
Ardal Weicheng 
Dinasyddiaeth Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, sbrintiwr, cenhadwr 
Taldra173 centimetr 
Pwysau68 cilogram 
PriodUnknown 
Chwaraeon
Tîm/auEdinburgh University RFC, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban 
SafleAsgellwr 
Cau

Ganwyd Liddell yn Tsieina yn fab i genhadon o'r Alban. Aeth i ysgol breswyl ger Llundain, gan dreulio amser, pan fyddai'n bosibl, gyda'i deulu yng Nghaeredin. Wedi ymadael a'r ysgol bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caeredin.

Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1924 ym Mharis, gwrthododd Liddell i redeg yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer y ras yr oedd yn ei ffafrio, y 100 metr oherwydd eu bod yn cael eu cynnal ar ddydd Sul a bydddai rhedeg ar y Sul yn groes i'w argyhoeddiad Cristionogol i barchu'r Saboth. Yn hytrach cafodd cystadlu yn y rasys 400 metr oedd yn cael eu cynnar ar ddiwrnod yn ystod yr wythnos, gan ddod yn fuddugol. Dychwelodd i Tsieina ym 1925 i wasanaethu fel cenhadwr ac athro. Ar wahân i ddau gyfnod byr o wyliau yn yr Alban, bu'n aros yn Tsieina hyd ei farwolaeth mewn gwersyll rhyfel Siapaneaidd ar gyfer sifiliaid ym 1945.

Cafodd hanes hyfforddi, rasio a dylanwad ei argyhoeddiadau crefyddol yn y Gemau Olympaidd, eu darlunio yn y ffilm 1981 fu'n fuddugol yn yr Oscars Chariots of Fire, lle mae'n cael ei bortreadu gan gyd Albanwr Ian Charleson.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.