From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd arloesol o'r Philipinau oedd Encarnacion Alzona (23 Mawrth 1895 - 13 Mawrth 2001) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét. Hi oedd y fenyw Ffilipinaidd gyntaf i ennill Ph.D., rhoddwyd iddi reng a theitl Gwyddonydd Cenedlaethol Philippines ym 1985.
Encarnacion Alzona | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1895 Biñan |
Bu farw | 13 Mawrth 2001 Manila |
Dinasyddiaeth | Y Philipinau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, swffragét, academydd |
Adnabyddus am | A History of Education in the Philippines 1565–1930 |
Gwobr/au | National Scientist of the Philippines |
Fe'i ganed yn Binan a oedd yr adeg honno yn Capitanía General de Filipinas ac a hawliwyd yn rhan o Ymerodraeth Sbaen; bu farw yn Manila, prifddinas y Philipinau a'i chladdu yn Libingan ng mga Bayani ('Caer yr Arwyr'), Fort Bonifacio, hefyd yn Manila. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard, Prifysgol Columbia a Phrifysgol y Philipinau.[1][2]
Fe’i magwyd yn nhalaith Tayabas. Roedd ei thad yn farnwr ac yn berthynas bell i'r cenedlaetholwr a'r polymath Jose Rizal.[3]
Roedd ei rhieni'n ddarllenwyr mawr, a oedd yn meithrin ei thueddiadau academaidd. Enillodd radd mewn hanes o Brifysgol y Philipinau ym Manila ym 1917, a gradd meistr y flwyddyn ganlynol o'r un brifysgol. Arolwg hanesyddol oedd ei thraethodau ymchwil - ar addysg o fewn ysgolion i fenywod yn Ynysoedd y Philipinau, thema a ysgogodd ynddi'n ddiweddarach ei gwaith fel swffragét.[4]
Dilynodd Alzona astudiaethau pellach yn Unol Daleithiau America fel ysgolhaig, astudiaethau a ariannwyd gan lywodraeth America. Enillodd radd meistr arall mewn hanes o Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard ym 1920, a Ph.D. o Brifysgol Columbia ym 1923.[5]
Dychwelodd Alzona i Ynysoedd y Philipinau ym 1923 ac ymunodd â chyfadran Hanes, Prifysgol y Philipinau ar gampws Manila, a symudodd yn ddiweddarach i Brifysgol y Philipinau yn Diliman.
Hyd yn oed wrth i ferched America ennill yr hawl i bleidleisio ym 1920, ni roddwyd yr un hawl i fenywod yn y Philipinau, a oedd ar yr adeg honno yn wladfa Americanaidd. Mor gynnar â 1919, siaradodd Alzona o blaid rhoi’r hawl i bleidlais i ferched Ffilipinaidd, a thros etholfrait mewn erthygl a gyhoeddodd yn y Philippine Review.[6]
Dewisodd Alzona aros ym Manila trwy gydol goresgyniad Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'n rhan o'r mudiad herwfilwrol ('gerila') yn erbyn y Japaneaid.[7]
Ar ôl y rhyfel, penodwyd Alzona gan yr Arlywydd Manuel Roxas yn aelod o ddirprwyaeth Philippine i UNESCO. Gwasanaethodd yn y ddirprwyaeth tan 1949, ac fe’i hetholwyd yn gadeirydd Is-bwyllgor Gwyddor Gymdeithasol, Athroniaeth a’r Dyniaethau ym 1946.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.