bardd Cymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffermwr a bardd o Gymro oedd Emyr Jones (1 Ebrill 1932 – 16 Ebrill 2018) a adwaenid fel Emyr Oernant.[1]
Emyr Oernant | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1932 |
Bu farw | 16 Ebrill 2018 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | bardd, ffermwr |
Cafodd ei fagu yn Llwyncelyn ger Aberaeron cyn i'w deulu symud i fferm Oernant ar gyrion Aberteifi, pan oedd yn ei arddegau. Bu'n ffermio yno gyda'i fab Richard hyd ei farwolaeth.[2]
Mynychodd ddosbarthiadau cerdd dafod T. Llew Jones. Un o'i gyd-aelodau yn y gwersi yn yr 1980au oedd Ceri Wyn Jones, a ddywedodd amdano "…mi synhwyrais yn syth fod hwn yn ddyn ffraeth a galluog, a chanddo ffordd wreiddiol – a digyfaddawd – o fynd at ei bethau,".[3]
Daeth yn enw cyfarwydd fel aelod o dîm Tan-y-groes – un o dimau gwreiddiol cyfres radio Talwrn y Beirdd ddiwedd y 1970au. Ymfalchiodd fod ei dîm wedi dod yn Bencampwyr y Talwrn yn 1997.[4]
Roedd yn briod a Mary Emily Jones a fu farw yn 76 mlwydd oed ar 4 Medi 2010. Roedd ganddynt ddau o blant, Elin a Richard.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.