Ymgyrchwr gwleidyddol o Gymru yw Emyr Llywelyn (ganwyd 26 Chwefror 1941),[1] a oedd yn weithgar yn ystod y 1960au a'r 1970au, sefydlwyd Mudiad Adfer ar sail ei athroniaeth ef, Owain Owain a'r Athro J. R. Jones. Mae'n cael ei adnabod hefyd gan ei lysenw Emyr Llew. Mae'n fab i'r nofelydd a'r bardd T. Llew Jones, ac yn frawd i'r chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones.
Emyr Llywelyn | |
---|---|
Ganwyd | 1941 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Tad | T. Llew Jones |
Fe'i ganed yn 1941 yn Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Ysgol Ramadeg Llandysul, a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae'n un o sefydlwyr a golygyddion y misolyn Cymraeg Y Faner Newydd.
Fe'i carcharwyd yn 1963 am wneud difrod i safle adeiladu argae Tryweryn; dedfryd o 12 mis o garchar.[2][3][4] Cyhoeddodd ar unwaith na fyddai'n defnyddio trais eto. Tra'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith sicrhaodd fod y Gymdeithas yn mabwysiadu polisi di-drais.
Bu'n gweithio fel athro Cymraeg am sawl degawd, ym Mhort Talbot ac Aberaeron, ac mae'n byw yn Ffostrasol, Ceredigion erbyn hyn.
Llyfryddiaeth
- Adfer a'r Fro Gymraeg (Lerpwl a Phontypridd: Cyhoediadau Modern Cymreig, 1976)
- Llwybrau Llên (Y Lolfa, 2005)
- Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cardi (Y Lolfa, 2006)
- Themâu ein Llên: Blas ar Themâu ein Llenorion (Y Lolfa:2007)
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.