Eiry Palfrey
actores a aned yn 1939 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores, awdur, cynhyrchydd ac astrolegydd o Gymru yw Eiry Palfrey (ganwyd Tachwedd 1939).
Eiry Palfrey | |
---|---|
Ganwyd | Eiry Lloyd Palfrey Tachwedd 1939 Llanfihangel y Creuddyn |
Man preswyl | Llanfyllin, Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Prifysgol Aberystwyth |
Plant | Lisa Palfrey, Daf Palfrey |
Bywgraffiad
Ganed Eiry Palfrey yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth. Cafodd ei magu a'i haddysgu yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn ac fe astudiodd Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n byw yng Nghaerdydd.[1][2]. Mae'n fam i'r actores Lisa Palfrey a'r cyfarwyddwr Dafydd Palfrey.[3]
Gyrfa
Ar ôl gadael y brifysgol fe aeth i ddysgu am ychydig cyn cael swydd gyda HTV Cymru yn 1974 fel cyflwynydd a darllenydd newyddion. Fe wnaeth hynny tan tua 1982.[4] Yn 1985 fe ddatblygodd HTV Cymru yr opera sebon Dinas ar gyfer S4C a chafodd Eiry ran yn chwarae'r cymeriad Helen Ambrose. Bu'n gweithio gyda chwmni Teliesyn rhwng 1990 a 2001 fel cynhyrchydd, cyn gadael i ffurfio cwmni cynhyrchu Tracrecord.[5]
Mae'n ymddiddori mewn dawnsio gwerin a bu'n gadeirydd Cymdeithas Dawns Werin Cymru. g Ysgrifennodd y ddrama ddogfen Poncho Mamgu a ddangoswyd ar S4C yn 2008. Roedd y rhaglen yn adrodd hanes Nel Davies a ymfudodd i'r Wladfa ym Mhatagonia ym 1875. Cyfarwyddwyd y rhaglen gan ei mab Dafydd, ei merch Sian Elin oedd tu ôl i'r camera a roedd ei merch arall, Lisa yn chwarae rhan Nel.
Llyfryddiaeth[2]
- Arwyr Gwerin Cymru i Ddysgwyr (Dref Wen)
- Un Tro – Chwedlau Cymru, Cernyw ac Iwerddon i Blant (J.D. Lewis, 1979)
- Cyfres Slici a Slac (Hughes a’i Fab)
- Chwedlau Cymru i Ddysgwyr (Gwasg y Dref Wen, 1982)
- Melangell (Gomer, 2005)
- Hiding Hopcyn (Pont, 2006)
- Llyfr Penblwydd (Gwasg Gomer, 2008)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.