From Wikipedia, the free encyclopedia
Saif Chapel santez Nonn (Cymraeg: Eglwys y Santes Non), ym mhentref Dirinonn, Penn-ar-Bed, Llydaw. Cysegrwyd yr eglwys i Dewi Sant (Llydaweg: Divy) a'i fam Non. Cychwynwyd adeiladu'r eglwys bresennol yn 1588. Ceir ystafell (neu 'gyntedd') llawn o gerfluniau'r Deuddeg Apostol, sy'n dyddio i 1618. Ceir llawer o wrthrychau crefyddol hynafol yn yr eglwys a'i hadeiladau, a'r rheiny o safon uchel, ac wedi'u cadw'n dda.
Ar wahân i'r brif egwlys ceir capel, Calfaria carreg ac esgyrndy.
Credir mai tardiadd enw'r plwyf yw naill ai cywasgiad o'r enw Dewi a Non neu'r gair am goed derw sef 'deri Non'[1].
Defnyddir y capel heddiw fel amgueddfa i'r creiriau hynafol.
Codwyd y capel yn 1577 yn lle adeilad cynharach. Cadwyd sarcoffagws garreg Non, fodd bynnag, yn yr union le a chredir mai Atelier du Folgoët fu'n gyfrifol am ei addurno, yn 1450. Mae'r capel yn siap petrual gyda chlochdy bychan a thŵr ar ei ben. Mae'r gisant (cerflun o'r person) yn dynodi y santes yn gorwedd ar ei hyd, gyda llyfr yn ei dwylo. Gorffwysa'i phen ar ddraig, sy'n ein hatgoffa o chwedl iddi ladd draig ddrwg ac iddi darddu o Gymru. Mae gan y feddrod hon chwe phanel, gyda cherfweddau (reliefs) o'r deuddeg apostol ac arfbeisiau'r teuluoedd hynny a gododd arian i dalu am y feddrod a'r capel cynharach, yn enwedig Simon de Kerbringal. Yn ystod y Chwyldro Ffrengig anrheithiwyd yr arfbeisiau gan y werin, drwy eu cerfio a'u tocio gyda chynion neu gerrig.
Ceir yma hefyd gerflun o Santes Non, ar du allan un o'r waliau ger y brif fynedfa a cherfluniau eraill i Santes Ann, Santes Catrin, Santes Fiacre a Dewi Sant ei hun. Darluniwyd Non a Dewi hefyd mewn ffenestr liw cywrain.
Rhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Bae Santes Non | 51.871°N 5.266°W | Sir Benfro | Q24666070 | |
2 | Capel y Santes Non | 51.872196°N 5.2688105°W | Sir Benfro | Q5073091 | |
3 | Church of St Nonna | 50.6056°N 4.28944°W | Bradstone | Q5117665 | |
4 | Church of St Nonna | 50.3679°N 4.52796°W | Pluw Nennys | Q17529394 | |
5 | Church of St Nun | 50.298553°N 4.899602°W | Grampound with Creed | Q26436923 | |
6 | Eglwys Santes Non | 52.220289°N 4.230496°W | Ciliau Aeron | Q29488505 | |
7 | Eglwys Santes Non, Llanycefn | 51.879272°N 4.767612°W | Maenclochog | Q28852330 | |
8 | Eglwys y Santes Non | 51.7559°N 4.11705°W | Llan-non | Q17743094 | |
9 | Eglwys y Santes Nonna, Altarnun | 50.604608°N 4.512809°W | Altarnun | Q7594983 | |
10 | Ffynnon y Santes Non | 51.8724°N 5.26841°W | Tyddewi a Chlos y Gadeirlan | Q17743367 | |
11 | Llan-non | 51.7551°N 4.1175°W | Sir Gaerfyrddin | Q6661651 | |
12 | Llan-non | 52.2825°N 4.17902°W | Ceredigion | Q6661685 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.