cricedwr, gwleidydd (1846-1914) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Edward Hyde Villiers, 5ed Iarll Clarendon, GCB, GCVO, PC, DL (11 Chwefror 1846 – 2 Hydref 1914), a oedd yn cael ei adnabod fel yr Arglwydd Hyde rhwng 1846 a 1870, yn wleidydd Unoliaethol Rhyddfrydol Prydeinig o'r teulu Villiers. Gwasanaethodd fel Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd rhwng 1900 a 1905.
Edward Villiers, 5ed Iarll Clarendon | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1846 Dulyn |
Bu farw | 2 Hydref 1914 Watford |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol |
Tad | George Villiers |
Mam | Katherine Grimston |
Priod | Emma Mary Augusta Hatch, Lady Caroline Agar |
Plant | George Villiers, 6th Earl of Clarendon, Edith Edgcumbe, Countess Mount Edgcumbe |
Chwaraeon |
Clarendon oedd ail fab ond hynaf i oroesi i'r gwladweinydd Rhyddfrydol amlwg George Villiers, 4ydd Iarll Clarendon a'i wraig Yr Arglwyddes Katherine Grimston, merch James Grimston, Iarll 1af Verulam. Addysgwyd ef yng Ngholeg Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.[1]
Etholwyd Clarendon i'r Senedd dros etholaeth Aberhonddu ym 1869, sedd a gadwodd tan y flwyddyn ganlynol, pan olynodd ei dad i'r iarllaeth a chymryd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.[2] Ym 1895 penodwyd ef yn Arglwydd preswyl yng ngweinyddiaeth Unoliaethol yr Arglwydd Salisbury, swydd a gadwodd hyd 1900, pan gafodd ei ddyrchafu'n Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd a'i dderbyn i'r Cyfrin Gyngor. Cadwodd y swydd pan ddaeth Arthur Balfour yn Brif Weinidog ym 1902. Syrthiodd y llywodraeth ym mis Rhagfyr 1905 ac nid chafodd Clarendon swydd wleidyddol arall.
Ynghyd a'i yrfa wleidyddol roedd yr Arglwydd Clarendon hefyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Hertford rhwng 1893 a 1914.
Gwnaeth Clarendon un ymddangosiad hysbys yn chwarae criced dosbarth cyntaf [3] i Brifysgol Caergrawnt ym 1865.[4] Roedd yn fatiwr llaw dde ac yn fowliwr cyflym braich gron. Chwaraeodd pedwar o'i ewythrod James, Edward, Robert a Francis Grimston i gyd griced o'r radd flaenaf, fel y gwnaeth ei gefnder Walter Grimston. Rhwng 1890 a 1896, roedd yr Arglwydd Clarendon yn aelod o Bwyllgor Pêl-droed Clwb Chwaraeon West Hertfordshire, gan gadeirio rhai o'r cyfarfodydd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd y clwb dri Chwpan Hŷn Swydd Hertford mewn pedair blynedd, heb gystadlu yn y flwyddyn arall. Yn ddiweddarach, gelwid y tîm pêl-droed hwn yn Glwb Pêl-droed Watford.[5]
Priododd yr Arglwydd Clarendon, yn gyntaf, yr Arglwyddes Caroline Agar, merch James Agar, 3ydd Iarll Normanton, ar 6 Medi 1876. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1894 priododd yn ail, Emma Hatch, ar 5 Awst 1908. Bu iddo dau o blant o'r briodas gyntaf:
Bu farw'r Arglwydd Clarendon ym mis Hydref 1914, yn 68 oed, ac olynwyd ef yn yr iarllaeth gan George ei unig fab.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.