cyfansoddwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores, cyfansoddwr a chynhyrchydd gerddoriaeth electronig yr enaid a pop Bajan-Gymreig yw Eädyth Crawford (adnabyddir hefyd fel Eady Crawford), sy'n canu yn Gymraeg a Saesneg.
Eädyth Crawford | |
---|---|
Ganwyd | Rhydychen |
Man preswyl | Rhydychen, Aberaeron |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, DJ producer, cyfansoddwr |
Gwefan | https://www.eadyth.com/ |
Ganwyd Eädyth yn Rhydychen ond pan yn un flwydd oed ysgarodd ei rhieni ym 1999, daeth ei mam ynghyd a'i rhieni hi i fyw i Aberaeron.[1] Mae ei mam yn Saesnes o dde-ddwyrain Lloegr ond treuliodd gwyliau ei phlentyndod gyda ei thad-cu a mam-gu yn Niserth, Powys ac roedd wastad eisiau magu ei phlant yng Nghymru.[2]
Mae teulu ei thad yn hanu o Barbados ac fe ymfudodd y teulu i Reading yn y 1950au. Roedd ei thad-cu mewn band sgiffl. Mae ei threftadaeth Bajan a'i theulu estynedig yn Barbados yn bwysig iddi ac mae'n dweud bod ganddi hunaniaeth Gymraeg a Bajan.[1]
Mae'n un o bump o blant. Mae ganddi chwaer, Kizzy, sydd hefyd yn gantores.[3][1] Wrth dyfu i fyny roedd cerddoriaeth yn bwysig iddi wrth gystadlu yn gystadlaethau canu fel yr Eisteddfod ers iddi fod yn 4 mlwydd oed.[4]
Mae natur, profiadau heriau yn y gorffennol a heriau bywyd yn dylanwadu ar ei cherddoriaeth. Yn ôl Eädyth mae'r gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn ganeuon yn hudol.[4] Mae hefyd yn canu dros bynciau gwleidyddol fel annibyniaeth a chydraddoldeb i fenywod. Ym Medi 2019, canodd Eädyth Calon Lân gyda'i chwaer, Kizzy, mewn rali YesCymru yn Merthyr Tudful, gan datgan ei chefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru.[5]
Mae Eädyth yn hoffi cydweithio gydag artistiaid arall wrth greu cerddoriaeth.[3] Roedd yn rhan o prosiect Gorwelion yn 2018 yn ogystal â phrosiect datblygu talent Forté.[3][6]
Ym Mehefin 2020 roedd yn rhan o'r cynllunio cerddorol ar gyfer sioe ar-lein, Wolfie, gan National Theatre Wales.[7]
Yn 2020 enillodd Wobr Triskel, sef ar gyfer cerddorion sy'n dod i'r amlwg, gan Wobr Gerddoriaeth Gymreig.[8]
Fe wnaeth Eädyth ar y cyd gyda Asha Jane cymryd rhan yn rhaglen 'Maes B:Merched yn Gwneud Miwsig' oedd ar S4C ar 6 Awst 2021.[9]
Teitl | Ar y cyd gyda | Label | Rhyddhawyd |
---|---|---|---|
Cymru Ni | Izzy Rabey | 2021 | |
Inhale / Exhale[10] | Libertino Records | 2021 | |
Cydraddoldeb i Ferched | Urdd | I KA CHING | 2021 |
Paradwys | Cait, Foxxglove | 2021 | |
Breuddwyd / Dream | UDISHIDO | 2021 | |
Mwy o Gariad | Endaf Roberts | High Grade Grooves | 2020 |
Hope | Asha Jane | Later Records | 2020 |
Newidiadau / Changes | Shamoniks | UDISHIDO | 2020 |
Tyfu / Grow | UDISHIDO | 2020 | |
Diogel / Safe Space | Shamoniks | UDISHIDO | 2020 |
Penderfyniad | UDISHIDO | 2020 | |
Microwave | 2020 | ||
Rhedeg / Run | UDISHIDO | 2020 | |
Disgwyl | Endaf Roberts, Ifan Dafydd | High Grade Grooves | 2020 |
Shots | 2019 | ||
Tri dymuniad | 2019 | ||
Sownd yn y canol | Endaf Roberts | 2019 |
Teitl | Ar y cyd gyda | Label | Rhyddhawd |
---|---|---|---|
Harddwch Du (EP) | Ladies of Rage | 2021 | |
Infinite Beauty (EP) | Izzy Rabey | 2020 | |
Mas O Ma (EP) | Izzy Rabey | UDISHIDO | 2020 |
Eädyth x Shamoniks | Shamoniks | UDISHIDO | 2019 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.