cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Pikeville yn 1956 From Wikipedia, the free encyclopedia
Canwr-gyfansoddwr, cerddor ac actor Americanaidd yw Dwight David Yoakam (ganwyd 23 Hydref 1956), sy'n adnabyddus am ei arddull arloesol o ganu gwlad.[1] Daeth yn boblogaidd yn gyntaf yng nghanol yr 1980au, ac mae Yoakam wedi recordio mwy nag ugain albwm a chasgliad, wedi siartio mwy na deg ar hugain o senglau ar siartiau Billboard Hot Country Songs, ac wedi gwerthu mwy na 25 miliwn o recordiau. Mae wedi recordio pum albwm Billboard #1, deuddeg albwm aur, a naw albwm platinwm, gan gynnwys y platinwm-triphlyg This Time.
Dwight Yoakam | |
---|---|
Ganwyd | 23 Hydref 1956 Pikeville |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Reprise Records |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, cerddor, canwr, actor ffilm, gitarydd, actor teledu, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm |
Arddull | canu gwlad |
Gwobr/au | Americana Award for Artist of the Year, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Achredu Cerddoriaeth Gwlad am Gyflawniad Rhyngwladol |
Gwefan | http://www.dwightyoakam.com/ |
Yn ychwanegol at ei lwyddiannau niferus yn y celfyddydau perfformio, ef hefyd yw'r gwestai cerddorol mwyaf aml yn hanes The Tonight Show.[2]
Ganwyd Dwight Yoakam ar 23 Hydref 1956, i Ruth Ann (née Tibbs), gweithredwr key-punch, a David Yoakam, perchennog gorsaf nwy.[3][4] Fe'i ganed yn Pikeville, Kentucky, Unol Daleithiau,[1] ond fe'i codwyd yn Columbus, Ohio, lle graddiodd o Ysgol Uwchradd Northland ym 1974. Yn ystod ei flynyddoedd ysgol uwchradd cymerodd ran yn y rhaglenni cerdd a drama, yn cael ei gastio mewn rolau arweiniol ar gyfer dramâu’r ysgol, gan gynnwys "Charlie" yn Flowers for Algernon. Y tu allan i'r ysgol, roedd Yoakam yn canu a chwarae gitâr gyda bandiau garej lleol.
Mynychodd Brifysgol Talaith Ohio,[1] ond rhoddodd y gorau iddi a symud i Los Angeles ym 1977 gyda'r bwriad o ddod yn artist recordio.[5] Ar 7 Mai 7 2005, cyflwynodd Prifysgol Ohio Valley, ddoethuriaeth er anrhydedd i Yoakam.[6]
Pan ddechreuodd ei yrfa, y steil yn Nashville ar y pryd oedd gerddoriaeth "pop cowboi trefol", ac nid oedd steil Yoakam o gerddoriaeth honky-tonk hip yn cael ei ystyried yn werthadwy.
Heb wneud llawer o gynnydd yn Nashville, symudodd Yoakam i Los Angeles a gweithiodd tuag at ddod â'i steil penodol o gerddoriaeth Honky Tonk newydd neu "Hillbilly" (fel y'i galwodd) ymlaen i'r 1980au. Trwy ysgrifennu ei ganeuon ei hun i gyd, a pharhau i berfformio y tu allan i sianeli canu gwlad draddodiadol yn bennaf, gwnaeth lawer o sioeau mewn clybiau roc a phync-roc o amgylch Los Angeles, yn chwarae gyda cherddorion pync-roc megis The Blasters, Los Lobos, ac X. Fe helpodd hyn ef i arallgyfeirio ei gynulleidfa y tu hwnt i'r cefnogwyr canu gwlad nodweddiadol, a daeth ei adfywiad honky-tonk â chynulleidfaoedd roc yn agosach at gerddoriaeth gwlad.[7]
Record gyntaf Yoakam oedd yr EP hunan-gyllidol Guitars, Cadillacs, Etc., Etc ar y label annibynnol Oak Records a gynhyrchwyd gan y prif gitarydd Pete Anderson. Ail-ryddhawyd hyn yn ddiweddarach yn 1986 gan Reprise Records, gyda sawl trac ychwanegol, yn ymddwyn fel ei record gyntaf LP ar brif label.[8] Rhyddhawyd yr albwm i'r farchnad yn ystod cyfnod o newid mewn canu gwlad: roedd y gerddoriaeth cowboi trefol bellach yn amhoblogaidd, ac roedd galw mawr bellach am gerddoriaeth neodraddodiadol yn seiliedig ar arddulliau clasurol, fel cerddoriaeth honky-tonk Yoakam. Roedd yr LP yn boblogaidd iawn ac ohoni daeth ei ddwy sengl gyntaf: "Honky Tonk Man", fersiwn o gân Johnny Horton, ac "Guitars, Cadillacs". Ei fideo ar gyfer "Honky Tonk Man" oedd y fideo canu gwlad gyntaf erioed i gael ei chwarae ar MTV. Roedd ei LP dilynol, Hillbilly Deluxe, yr un mor llwyddiannus. Roedd ei drydydd LP, Buenas Noches from a Lonely Room, yn cynnwys ei rif 1 cyntaf: deuawd gyda'i arwr cerddorol, Buck Owens, ar "Streets of Bakersfield". Sengl fawr arall oedd y cân 1990 If There Was a Way.
Mae cân Yoakam "Readin', Rightin', Route 23" yn talu teyrnged i'r amser yn ei blentyndod pan symudodd o Kentucky, ac fe'i henwir ar ôl mynegiad lleol sy'n disgrifio'r llwybr a gymerodd pobl wledig Kentucky i ddod o hyd i swyddi y tu allan i'r pyllau glo. (Mae Route 23 yr UD yn rhedeg tua'r gogledd o Kentucky trwy Columbus a Toledo, Ohio a thrwy ganolfannau ceir Michigan.) Yn hytrach na'r llinell safonol yr oedd eu hysgolion elfennol yn ei dysgu "y tair R" sef "Readin', 'Ritin', ac 'Rithmetic", arferai pobl Kentucky dweud mai'r tair R a ddysgon nhw oedd "Readin','Ritin', a Route 23 North".
Dywedodd Johnny Cash taw Yoakam fel ei hoff ganwr gwlad. Dywedodd Chris Isaak taw Yoakam oedd y cyfansoddwr caneuon gorau erioed a rhoddodd beiro ar bapur. Gwnaeth Time ei alw'n "wŷr y dadeni" a datganodd Vanity Fair fod "Yoakam yn camu'r wahanfa rhwng chwant roc a galarnad y wlad." Ynghyd â'i wreiddiau bluegrass a honky-tonk, mae wedi ysgrifennu neu ganu fersiynau o lawer o ganeuon rocabilly mewn arddull Elvis Presley, gan gynnwys ei fersiynau o "Crazy Little Thing Called Love" gan Queen ym 1999 a "Suspicious Minds" gan Presley ym 1992. Fe recordiodd fersiwn o "Train in Vain" gan The Clash ym 1997, fersiwn o'r gân "Truckin'" gan Grateful Dead, ac "I Want You to Want Me" gan Cheap Trick. Nid yw'n gysylltiedig â chanu gwlad yn unig; ar lawer o deithiau cynnar, chwaraeodd gyda bandiau pync megis Hüsker Dü, a chwaraeodd lawer o sioeau o amgylch Los Angeles gyda cherddorion roots/pync/roc a rôl. O ganol ei yrfa ymlaen dechreuodd recordio caneuon mewn gwahanol arddulliau, gan gynnwys roc a rôl, pync, 1960au, "boogie" y felan fel ZZ Top, a dechreuodd ysgrifennu caneuon mwy anturus fel "A Thousand Miles From Nowhere".
Yn 2000, rhyddhaodd Yoakam dwightyoakamacoustic.net, albwm sy'n cynnwys fersiynau acwstig unigol o lawer o'i ganeuon poblogaidd.
Yn 2005 rhyddhaodd Yoakam yr albwm Blame the Vain, ar New West Records i adolygiadau da. Hefyd, rhyddhaodd albwm wedi'i er clod i Buck Owens, Dwight Sings Buck, ar 23 Hydref 2007. Yn gynnar yn 2001 rhyddhaodd ei ddeuawd gyda Michelle Branch, cân o'r enw "Long Goodbye", i'w lawrlwytho am ddim ar ei gwefan swyddogol.
Ym mis Gorffennaf 2011, ail-lofnododd Yoakam gyda Warner Bros Nashville, a chyhoeddodd gynlluniau i ryddhau albwm newydd. Rhyddhaodd 3 Pears, gynhyrchu ganddo ef, ar 18 Fedi 2012, ac mae'n cynnwys cydweithrediad gyda Beck.[2]
Ym mis Mehefin 2014, gwnaeth Rolling Stone rhoi'r gân "Guitars, Cadillacs" ar eu rhestr o'r 100 o ganeuon gwlad gorau, yn #94.[9]
Mae Yoakam hefyd wedi serennu mewn llawer o ffilmiau, yn arbennig fel cariad camdriniol, ymosodol yn Sling Blade (1996), fel llofrudd seicopathig yn Panic Room (2002), fel ditectif heddlu yn The Minus Man (1999) ac fel y siryf yn The Three Burials of Melquiades Estrada (2005). Ymddangosodd mewn rôl gefnogol fel Doc Miles, meddyg Chev Chelios, yn Crank (2006) a'i ddilyniant, Crank: High Voltage (2009). Yn ogystal, fe wnaeth serennu yn episod o King of the Hill.
Hefyd cafodd cameo yn y ffilm gomedi 2005 Wedding Crashers. Yn 2006, serennodd ochr yn ochr â Penélope Cruz a Salma Hayek yn Bandidas; yn 2008, chwaraeodd Pastor Phil yn Four Christmases, a serennodd Vince Vaughn a Reese Witherspoon; ac mae'n ymddangos yn Dirty Girl (2010). Ymddangosodd hefyd yn The Last Rites of Ransom Pride, llun cowbois annibynnol yn 2010 sydd hefyd yn serennu ei gyd-ganwr gwlad Kris Kristofferson. Chwaraeodd yrrwr lori yn y ffilm trosedd Red Rock West (1993), a chwaraeodd Brentwood Glasscock yn The Newton Boys (1998).
Yn Terminator 2: Judgment Day (1991), mae ei gân "Guitars, Cadillacs" yn chwarae yng nghefndir golygfa'r bar agoriadol. Ymddangosodd rhai o'i ganeuon yn y ffilm Big Eden (2000).
Yn 2000 gwnaeth Yoakman cyd-ysgrifennu, serennu mewn, cynhyrchu ac ysgrifennu'r trac sain ar gyfer South of Heaven, West of Hell, a oedd hefyd yn serennu Vince Vaughn a Bridget Fonda.
Chwaraeodd Yoakam cymeriad o'r enw Bruce ar y gyfres FX Wilfred, ond cafodd ei disodli gan William Baldwin ar gyfer y gyfres olaf. Mae hefyd yn ymddangos yn ail gyfres Under the Dome fel Lyle Chumley. Yn 2016 ymddangosodd Yoakam mewn rôl gefnogol ar sioe wreiddiol Amazon Goliath a serennodd Billy Bob Thornton.[8]
Mae Yoakam wedi cael perthnasoedd gyda sawl actores enwog gan gynnwys Sharon Stone.[10] Ysgrifennodd y caneuon "Fast as You" a "Heart Of Stone" amdani. Yn 2016, dyweddïodd â'r ffotograffydd Emily Joyce; dechreuon nhw berthynas yn 2013.
Mae gan Yoakam brand o fwyd, Bakersfield Biscuits,[11] ac maent wedi bod ar gael mewn siapiau megis Walmart.[12] [ angen dyfynnu ]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.