Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a bwrdeistref yn ne-ddwyrain Bizkaia yw Durango. Mae'n rhan o ardal Durango, Durangaldea. Mae ganddi arwynebedd o 10.79 km², ac yn 2023 roedd ganddi 29,767 o drigolion.
Enghraifft o'r canlynol | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Rhan o | Q107556231 |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Rhanbarth | Durangaldea |
Gwefan | http://www.durango-udala.net/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sawl barn gwahanol am darddiad enw'r dref. Awgrymodd yr ieithydd Alfonso Irigoyen mai'r enw Duranco, a ddefnyddiwyd yn y canol oesoedd, yw'r tarddiad.[1] Mae eraill yn awgrymu ei fod yn tarddu o Urazango neu Padurango. Mae'r Euskaltzaindia yn awgrymu bod yr enw Durango'n deillio o'r enw Lladin Turanicus, sef fundus Rhufeinig fel sawl un arall yng Ngwlad y Basg (Kuartango er enghraifft). Yn statud fuero'r dref, cyfeirir ati fel Tavira de Durango; Tabira oedd enw gwreiddiol y dref mae'n debyg, gyda Durango'n enw ar ardal ehangach o'i chwmpas. Tan y 16g, gelwid y dref yn Uribarri de Durango, sef Tref Newydd de Durango.
Enwyd Durango ym Mecsico, Durango yn Colorado, a Durangos eraill yn Iowa a Tecsas ar ei hôl.
Lleolir Durango ym mherfeddwlad Bizkaia, ar wastadedd bach a grëwyd gan afon Ibaizabal. Mae afon Ibaizabal yn mynd trwy'r dref, lle mae ffrydiau Mañarierreka a Larrinagatxu yn ymuno â hi.
O fewn adal y fwrdeistref, mae mynyddoedd Mugarra (960 metr) a Neberondo (453 metr) yn sefyll allan, gan ffurfio cadwyn o fynyddoedd calchfaen. Mugarra yw dechrau cadwyn mynyddoedd Durangalde, sy'n ymestyn ar draws y rhanbarth hwn o Bizkaia ac yn cynnwys mynyddoedd Alluitz, Untxillatz ac Anboto ym Mharc Natur Urkiola.
Mae Durango'n ffinio ag Iurreta i'r gogledd, Izurtza i'r de, Amorebieta-Etxano a Dima i'r gorllewin, ac Abadiño i'r dwyrain.
Roedd ardal Durango'n rhan o deyrnas Nafarroa, nes iddi gael ei gynnwys yn derfynol yn nheyrnas Castilla yn 1200. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, rhoddodd Brenin Harri'r 1af denantiaeth ardal Durango i Diego Lopéz de Harro, am ei wasanaeth ym mrwydr Navas de Tolosa.
Ganol y 12g, sefydlodd brenin Nafarroa dref o'r enw Villanueva de Durango, ar safle tref Tabira.
Un o'r digwyddiadau enwocaf oedd heresi Durango (1442-1445), mudiad anghydffurfiol dan arweiniad Fray Alfonso de Mella. Roedd yn argymell darllen y Beibl yn bersonol, rhyddid i eiddo a rhyddid personol. Cyhoeddodd yr Eglwys Gatholig bod Fray Alfonso yn heretic, ac anfonwyd y Chwil-Lys i erlyn y mudiad. Dedfrydwyd dros gant i farwolaeth, a llosgwyd 13 yn Kurutziaga, yn Santo Domingo de la Calzada ac yn Valladolid. Dywedir i groes Kurutziaga gael ei hadeiladu'n ymddiheuriad am y digwyddiad hwn.
Ar 31 Mawrth, 1937, bomiodd awyrennau Eidalaidd o dan orchymyn Franco y ddinas, gan ladd tua 400 o bobl.
Rhwng 1939 a 1940, roedd Carchar Menywod Durango dan ofal lleianod y Karidade. Bu farw 5 o fenywod a 6 o blant yno.
Ar 1 Tachwedd, 1965, trefnwyd Ffair Lyfrau Durango am y tro cyntaf.
Fel llawer o leoedd eraill yn Bizkaia, cynyddodd poblogaeth Durango yn fawr yn ystod ail hanne, gyda phobl yn dod o Sbaen. Ar ddiwedd y ganrif sefydlogodd y boblogaeth, ond tyfodd eto ar ddechrau'r 20fed ganrif, gyda mewnfudwyr o bob rhan o'r byd y tro hwn.
Ym 1990, gwahanodd Iurreta oddi wrth Durango; ers hynny nid yw ei thrigolion yn ymddangos yn ystadegau Durango.
A siarad yn ystadegol, mae gan dref Durango yr adrannau canlynol[2]:
Ac o ran ardaloedd ffermydd[3]:
Mae tafodiaith gynhenid y dref a'r cyffiniau yn amrywiad ar Fasgeg Orllewinol, tafodiaith Durangalde sef ardal Durango[5][6]. Erbyn hyn, o edrych ar ddata Eustat, roedd 52.91% o drigolion Durango (yn 2016) yn siaradwyr Basgeg.
Ymhlith enwogion Durango, ceir Juan Zumarraga, a sefydlodd brifysgol Mecsico yn yr 16g; Xabier Castillo, chwaraewr gydag Athletic; Pablo Pedro Astarloa, offeiriad ac un o garedigion y Fasgeg; a'r bertsolaris Unai Iturriaga ac Igor Elortza.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.