From Wikipedia, the free encyclopedia
Achos o blentyn a gafodd ei llofruddio yw llofruddiaeth April Jones. Merch pum mlwydd oed o Fachynlleth, Powys, Cymru, oedd April a ddiflannodd ar 1 Hydref 2012.
Enghraifft o'r canlynol | llofruddiaeth, herwgipio |
---|---|
Dyddiad | 1 Hydref 2012 |
Lladdwyd | 1 |
Lleoliad | Machynlleth |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cafodd ei gweld olaf yn mynd i mewn i fan am tua 19:00 tra'n chwarae gyda ffrindiau ar ystad Bryn-y-Gog, Machynlleth.[1] Am 22.30, datganodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod hi ar goll.[1] Cafodd dyn lleol 46 oed ei arestio ar 2 Hydref. Trannoeth, cadarnhaodd yr heddlu enw'r dyn, Mark Bridger, a chyhoeddwyd llun ohono, cam anarferol.[1]
Ar brynhawn 3 Hydref gwnaed apêl gyhoeddus gan fam April, Coral Jones, am wybodaeth.[2] Ar 4 Hydref cyhoeddodd yr heddlu bod gan April barlys yr ymennydd.[3]
Cafwyd archwiliad fforensig o Land Rover Mark Bridger, a'i gartref diweddaraf, ffermdy yng Ngheinws.[4] Ar 6 Hydref, cyhuddwyd Mark Bridger o lofruddiaeth, cipio plentyn, a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.[5] Ymddangosodd Bridger yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 8 Hydref i gadarnahu ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad.[6] Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 14 Ionawr 2013, ond dywedodd ei fargyfreithiwr i'r llys taw Bridger oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am farwolaeth April Jones.[7][8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.