Gynecolegydd o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC) yw'r Dr Denis Mukwege Mukengere[1] (ganwyd 1 Mawrth 1955).[2] Mae'n arbenigo mewn trin menywod a ddioddefodd trais rhywiol. Mae Mukwege yn ymgyrchu dros ymrwymiad gan y gymuned ryngwladol i ddod â therfyn i'r gwrthdaro yn y Congo, gan alw ar fandad cryf gan y Cenhedloedd Unedig yn y wlad.
Denis Mukwege | |
---|---|
Ganwyd | Denis Mukwege 1 Mawrth 1955 Bukavu |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Alma mater | |
Galwedigaeth | amddiffynnwr hawliau dynol, geinecolegydd, obstetrydd, gweinidog bugeiliol |
Cyflogwr | |
Perthnasau | Fabrice Mvita |
Gwobr/au | Gwobr Olof Palme, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Sakharov, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Gwobr Dewrder Sifiliaid, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Umea, Gwobr Heddwch Nobel, Wallenberg Medal, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, prix des droits de l'Homme de la République française, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, Honorary doctor of the University of Liège, honorary doctor of the University of Pennsylvania, honorary doctor from the NOVA University Lisbon, Doethuriaeth er Anrhydedd Université de Montréal, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, doctor honoris causa from the University of Pau, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Montpellier, honorary doctor of the University of Rennes 2, Q126416276 |
Ganwyd yn fab i weinidog Pentecostaidd yn Bukavu yn nhalaith De Kivu yn y Congo Felgaidd, sydd heddiw yn y DRC. Astudiodd feddygaeth ym Mwrwndi a dychwelodd i'r DRC i weithio mewn ysbyty ym mhentref Lemera. Cychwynnodd ei yrfa mewn pediatreg ond trodd i obstetreg a gynecoleg wedi iddo weld yr amodau llym oedd gan fenywod y cefn gwlad wrth iddynt esgor ar blant. Astudiodd rhagor ym Mhrifysgol Angers, Ffrainc, ac ym 1989 sefydlodd wasanaeth obstetreg a gynecoleg yn Lemera.[2]
Cafodd yr ysbyty ei ddinistrio yn ystod Rhyfel Cyntaf y Congo. Symudodd Mukwege i Bukavu a sefydlodd Ysbyty Panzi ym 1998. Amcan gwreiddiol yr ysbyty oedd i ddarparu gofal i famau a babanod, ond yn fuan bu'n derbyn nifer fawr o ddioddefwyr trais rhywiol.[2] Bu rhyfelwyr ar bob ochr yn treisio menywod a merched fel arf i frawychu a dadleoli sifiliaid. Ers 1998 mae Mukwege a'i gydfeddygon wedi llaw-drin mwy na 30,000 o fenywod a merched i atgyweirio eu horganau cenhedlu.[3]
Ym mis Hydref 2012 bu cais ar fywyd Mukwege yn ei gartref yn Bukavu gan bum dyn â drylliau,[4][5] ac yn sgil hwn symudodd â'i deulu i Frwsel. Dychwelodd i Bukavu yn Ionawr 2013 wedi i gleifion ei ysbyty godi arian trwy werthu pinafalau a winwns.[6]
Enillodd Wobr Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn 2008,[7] Gwobr Olof Palme ac "Affricanwr y Flwyddyn" yn 2009,[8] Gwobr Sakharov yn 2014,[9][10][11] a Gwobr Heddwch Nobel (ar y cyd â Nadia Murad) yn 2018.[12]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.