From Wikipedia, the free encyclopedia
Gellir dosbarthu'r defnydd o dir yn dir sy's gymharol naturiol e.e. tir âr, porfa'r amaethwr, coedwigoedd dan reolaeth a thir sy'n cael ei reoli a'i ddatblygu mewn modd annaturiol e.e. trefedigaethau, dinasoedd, ffyrdd. Mae'r tiroedd naturiol yn cael eu defnyddio, eu haddasu neu eu datblygu mewn rhyw ffordd neu gilydd er budd pobl, fel arfer. Gall 'defnydd tir' hefyd olygu'r "holl drefniadau, gweithgareddau ac ymwneud pobl â thirwedd neilltuol".[1]
Caiff ei ddiffinio gan y Cenhedloedd Unedig fel yr hyn sy'n berthnasol i "gynnyrch a'r budd a geir drwy ddefnyddio'r tir yn ogystal â rheoli'r tir a gweithredoedd pobl yn eu gwaith o greu'r cynnyrch a'r gweithgareddau hyn."[2] Yn y 1990au roedd tua 13% o'r Ddaear yn dir âr, 26% yn borfa, 32% yn goedwigoedd ac 1.5% yn drefdigaethau.
Nododd Albert Guttenberg yn 1959 fod "defnydd tir yn derm allweddol o fewn iaith y cynllunydd dinesig."[3] Yn aml, mae gan lywodraethau gwledydd ddiddordeb mawr yn rheolaeth y defnydd o dir, drwy greu deddfau cynllunio i reoli'r hyn a ganiateir a'r hyn sy'n cael ei wahardd. Yn aml ceir gwrthdaro rhwng gwahanol adrannau wrth iddynt geisio budd o'r tiroedd i'w maes eu hunain. Er enghraifft, efallai y bydd yr hyn sy'n cael ei annog gan ddatblygwyr economaidd neu adran ddiwydiant Awdurdod Cynllunio (Sir neu Barc Cenedlaethol yng Nghymru) yn gwbwl groes i ymarfer da a rheolau adran gadwraeth yr awdurdod, neu gorff allanol megis Cadw. Fel arfer, yn y maes neu'r fforwm wleidyddol yr holltir y ddadl gan ddod i benderfyniad drwy reolaethau neu weithiau addasu deddfau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.