De Tyneside
bwrdeistref fetropolitan yn Tyne a Wear From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bwrdeistref fetropolitan yn Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw De Tyneside (Saesneg: South Tyneside).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 64.4 km², gyda 150,976 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Sunderland i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Gateshead a Dinas Newcastle upon Tyne i'r gorllewin, Gogledd Tyneside i'r gogledd, a Môr y Gogledd i'r dwyrain.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref South Shields. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys trefi Hebburn a Jarrow.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

