Seiclwr proffesiynol Eidalaidd yw Danilo Di Luca (ganwyd 2 Ionawr 1976). Mae wedi cael ei wahardd rhag cystadlu am gyfnod wedi iddo roi prawf cyffuriau positif yn ystod Giro d'Italia 2009.[1] Enillodd Di Luca UCI ProTour 2005, Giro d'Italia 2007 a'r Giro di Lombardia yn 2001 a'r Liège-Bastogne-Liège yn 2007.
Blynyddoedd cynnar
Ganwyd Di Luca yn Spoltore, talaith Pescara, dechreuodd ei yrfa proffesiynol yn 1998 ar dîm Riso Scotti. Dangosodd dalent pan enillodd fersiwn o'r Giro d'Italia ar gyfer reidwyr o dan 23. Enillodd ei ras cyntaf proffesiynol ym 1999, gyda tîm Cantina Tollo-Alexia Alluminio, pan enillodd cymal cyntaf y Giro d'Abruzzo. Arhosodd gyda'r tîm, gan gael fwy o lwyddiant yn 2001 megis ennill pedwerydd cymal y Giro d'Italia a'r Giro di Lombardia. Wedi hynny symudodd i dîm Saeco-Longoni Sport.
Yn ystod ei gyfnod gyda Saeco-Longoni bu'n arwain y Vuelta al País Vasco tan y cymal olaf, sef cymal treial amser mynyddig a enillwyd gan Andreas Klöden i gipio'r fuddugoliaeth. Dirywiodd ei berfformiadau fel canlyniad o anafiadau a diffyg hyder ynddo gan gyfarwyddwyr ei dîm. Cafodd Di Luca ei ymchwilio ynglŷn â defnydd cyffuriau gan swyddogion Eidalaidd. Adroddodd gwefan cyclingnews.com fod Di Luca wedi cael ei recordio mewn sawl sgwrs ar y ffôn gyda Eddy Mazzoleni lle honnir iddo drafod cynnyrch cyffuriau. O ganlyniad, ni wnaeth Di Luca gymryd rhan yn Tour de France 2004.[2][3]
2005
Yn 2005, symudodd Di Luca i dîm Liquigas-Bianchi, gyda Mario Cipollini, Dario Cioni, Stefano Garzelli a Magnus Bäckstedt. Ef oedd arweinydd y tîm yng nghlasuron y gwanwyn. Enillodd gymal cyntaf ras UCI ProTour y Vuelta al País Vasco, cyn mynd ymlaen i ennill y ras yn gyffredinol gan guro Aitor Osa yn y treial amser olaf. Cipiodd yr Amstel Gold Race a La Flèche Wallonne, gan ddod i wisgo crys gwyn yr arweinydd yn y gyfres ProTour.
Roedd Di Luca yn cael ei ystyried fel reidiwr a oedd yn gweddu orau â rasys a oedd ond yn parau cwpl o ddyddiau, felly daeth ei lwyddiant yn Giro d'Italia 2005 yn gryn syndod. Enillodd ddau gymal a gorffennodd yn bedwerydd yn nosbarthiad cyffredinol y ras tair wythnos. Daeth yn bumed yn y Tour de Pologne, a pedwerydd yn y Züri-Metzgete, felly daeth yn bencampwr UCI ProTour 2005.
2006
Gorfodwyd Di Luca i ymddeol o Tour de France 2006, oherwydd haint troethol. Gwellhaodd mewn pryd i gystadlu yn Vuelta a España 2006, gan ennill y pumed cymal ac arwain y ras am gyfnod. Roedd perfformiadau Di Luca yn rasys eraill 2006 megis y clasuron a'r Giro yn siomedig i gymharu a'i ganlyniadau yn 2005.
2007
Enillodd Di Luca y Milano-Torino ym mis Mawrth 2007, a'r Liège-Bastogne-Liège ym mis Ebrill. Cipiodd gymalau 4 a 12 ar y ffordd i'r fudugoliaeth yn Giro d'Italia 2007. Wedi'r Giro, daeth i'r amlwg fod gan Di Luca lefelau isel o hormon nad oedd wedi ei enwi. Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn ceisio penderfynu os oedd hyn yn ganlyniad o rasio ar lefel uchel am dair wythnos yntau'n fath o gyfrwng er mwyn cuddio defnydd cyffuriau.[4] Ar 28 Medi, tynnodd Di Luca allan o Bencampwriaethau Ras Ffordd y Byd yr UCI, gan ddisgrifio y ffordd yr oedd wedi cael ei drin yn warthus wedi'r cyhuddiadau o amhureddu.[5]
Roedd Di Luca yn arwain cyfres yr UCI ProTour yn 2007 pan gafodd ei wahardd cyn y ras terfynol, y Giro di Lombardia, oherwydd ei ymglymiad honedig gyda'r achos Oil for Drugs, cafodd ei wahardd am dri mis dros y gaeaf yn dilyn hyn.[6]
2008–2009
Cafodd Di Luca flwyddyn tawel yn 2008, wedi iddo ymuno â'i dîm newydd, LPR Brakes-Ballan, gan na chawsant eu gwahodd i nifer o rasys. Derbyniodd y tîm safle ar hap yn Giro d'Italia 2009, ac enillodd Di Luca y pedwerydd cymal.[7] Daeth yn ail yn y bumed cymal gan gipio'r maglia rosa am gyfnod, ymestynnodd ei fantais dros weddill y maes pan enillodd y degfed cymal. Collodd amser yn y ddau gymal treial amser gan orffen yn ail yn y dosbarthiad cyffredinol a chipio'r maglia cilamino.
Ar 22 Gorffennaf 2009, datganwyd fod Di Luca wedi cael ei brofi'n bositif ar gyfer CERA ar 20 a 28 Mai 2009, yn ystod y Giro d'Italia. Cafodd ei wahardd dros dro gan yr UCI yn syth.[1][8] Roedd wedi cael ei dargedu ar gyfer profion gan ddefnyddio gwybodaeth proffil ei waed o'i basbort biolegol, canlyniadau arbrofion cynt a'i raglen rasio.[9]
Canlyniadau
- 1999
- 1af 1 Cymal Giro d’Abruzzo
- 2il Giro di Lombardia
- 2000
- 1af GP Industria & Artigianato di Larciano
- 1af Trofeo Pantalica
- 1af 1 Cymal Giro d'Italia
- 1af 2 Gymal Giro d’Abruzzo
- 2il Vuelta al País Vasco
- 1af 1 Cymal
- 2001
- 1af Giro di Lombardia
- 1af 1 Cymal Giro d'Italia
- 2il 1 Cymal Setmana Catalana
- 1af Giro d'Abruzzo
- 1af 1 Cymal
- 2002 – Saeco
- 1af Giro del Veneto
- 1af GP Fred Mengoni
- 1af Trofeo Laigueglia
- 2il Tirreno - Adriatico
- 1af 2 Gymal
- 1af 1 Cymal Volta a la Comunitat Valenciana
- 1af 1 Cymal Vuelta a España
- 2003
- 1af Coppa Placci
- 3ydd Amstel Gold Race
- 1af Tre Valli Varesine
- 1af 1 Cymal Tirreno - Adriatico
- 1af Tour de Ligure
- 1af 1 Cymal
- 2004
- 1af Trofeo Matteoti
- 1af Brixia Tour
- 1af Cymal 4, Vuelta a Murcia
- 2il La Flèche Wallonne
- 4ydd Amstel Gold Race
- 2005
- 1af UCI ProTour
- 1af Amstel Gold Race
- 1af La Flèche Wallonne
- 1af Vuelta al País Vasco
- 1af Cymal 1
- 4ydd Giro d'Italia
- 1af Cymal 3
- 1af Cymal 5
- 4ydd Züri-Metzgete
- 5ed Tour de Pologne
- 2006
- 1af Cymal 5, Vuelta a España
- 6ed La Flèche Wallonne
- 9fed Liège-Bastogne-Liège
- 2007
- 1af Milano-Torino
- 3ydd Amstel Gold Race
- 3ydd La Flèche Wallonne
- 1af Liège-Bastogne-Liège
- 1af Cymal 3, Settimana Internazionale Coppi e Bartali
- 1af Giro d'Italia
- 1af Cymal 4
- 1af Cymal 12
- 2008
- 1af Cymal 4 & Overall, Settimana Ciclistica Lombarda
- 1af King of the Mountains, Tour of Britain
- 1af Giro dell'Emilia
- 2009
- Settimana Ciclista Lombarda
- 1af Cymal 1, Treial Amser Tîm
- Giro del Trentino
- 1af Cymal 4
- 2il Giro d'Italia
- 1af Maglio ciclamino
- 1af Cymal 4
- 1af Cymal 10
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.