From Wikipedia, the free encyclopedia
Yng nghosmoleg ffisegol, damcaniaeth y Glec Fawr yw'r ddamcaniaeth wyddonol sy'n ceisio esbonio sut yr ymddangosodd y bydysawd allan o gnewyllyn dwys a phoeth iawn tua 13.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl (sef hanner nos neu 0000 o'r gloch ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn gosmig).[1][2][3]
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad, cosmological model, big bang, unmoved mover, argument for God's existence, scientific evidence for the existence of God |
---|---|
Math | Big Bounce |
Y gwrthwyneb | steady-state model |
Dyddiad | Mileniwm 13799. CC |
Dyddiad darganfod | 1931 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid oedd pob seryddwr yn derbyn y ddamcaniaeth erbyn canol yr 20g, fodd bynnag. Ymhlith y rhai wnaeth gynnig damcaniaethau eraill oedd Sir Fred Hoyle, awdur y ddamcaniaeth cyflwr cyson.[1] Ond yn y 1960au fe wnaeth gwyddonwyr ddarganfod tystiolaeth oedd yn cefnogi damcaniaeth y Glec Fawr, yn enwedig y pelydriad cefndir microdon cosmig ac esblygiad yng ngalaethau radio pell.[2] Erbyn heddiw, mae arsylliadau o sawl maes seryddol yn cefnogi'r ddamcaniaeth, gan gynnwys natur y cefndir microdon cosmig ar lefel fanwl.[4]
Yn ôl damcaniaeth y Glec Fawr, ymddangosodd y Bydysawd o ffurf ddwys a phoeth iawn (gwaelod). Ers hynny, mae mater yn y gofod ar lefel eang wedi ehangu gydag amser, gan gynnwys galaethau.
Mae damcaniaeth y Glec Fawr yn seiliedig ar Egwyddor Gosmolegol a damcaniaeth perthnasedd cyffredinol Einstein. Yr Egwyddor Gosmolegol yw'r syniad bod y Bydysawd yn homogenaidd ac isotropig ar raddfa eang. Mae hyn yn golygu bod gwedd y Bydysawd yr un fath ym mhob man, ar hyn o bryd, o safbwynt strwythurau mawr iawn. Felly does dim byd arbennig gyda lleoliad Galaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni, yn y Bydysawd, yn hytrach na strwythau lleol fel galaethau, clystyrau galaethau ac ati.
Yn y ddamcaniaeth mae'r Bydysawd wedi ehangu o gyflwr dwys iawn ac yn dal i ehangu heddiw. Felly mae'r pellter rhwng unrhyw ddwy alaeth ymhell o'u gilydd yn cynyddu. Hefyd mae galaethau pell o'n Galaeth ni yn symud i ffwrdd ohonom.
Un canlyniad naturiol o ddamcaniaeth y Glec Fawr yw bod gwrthrychau seryddol pell, fel galaethau, yn dangos symudiad nodweddion yn eu sbectra i donfeddi hirach, yr effaith a elwir dadleoliad coch (neu weithiau ‘rhuddiad’). Mwy na hyn, mae'r Egwyddor Gosmolegol yn mynnu bod maint y dadleoliad coch mewn cyfrannedd â'r pellter , fel , ac eithro mudiannau bach lleol galaethau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.