From Wikipedia, the free encyclopedia
Ar 15 Tachwedd 2022 achoswyd ffrwydrad gan daflegryn a darodd fferm ger pentref Przewodów, Gwlad Pwyl, yn agos i'r ffin ag Wcráin. Bu farw dau weithiwr fferm o ganlyniad i'r ffrwydrad. Digwyddodd yn ystod cyfres newydd o gyrchoedd awyr a orchmynnwyd gan Vladimir Putin, Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, yn erbyn safleoedd ar draws Wcráin. Dyma'r achos cyntaf o daflegryn yn disgyn a ffrwydro ar diriogaeth un o aelod-wladwriaethau NATO yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022.[1]
Ar y cychwyn, ansicr ydoedd tarddiad y taflegryn a achosodd y ffrwydrad. Codwyd ofn y byddai cyrch gan luoedd Rwsia ar un o aelod-wladwriaethau NATO yn tanio rhyfel rhwng y cynghrair milwrol hwnnw a Rwsia, ac ill dau yn meddu ar arfau niwclear.[1] Y diwrnod wedi'r ffrwydrad, daeth i'r amlwg, mae'n debyg, taw taflegryn Wcreinaidd—hen roced S-300 o'r oes Sofietaidd—ydoedd, a lansiwyd gan luoedd amddiffyn awyr er mwyn gwrthsefyll cyrchoedd Rwsia, ac a laniodd dros y ffin yn nhiriogaeth Gwlad Pwyl ar ddamwain.[2][3] Er i Rwsia hefyd feddu ar rocedi S-300, dim ond pellter o ryw 95 milltir y gellir ei saethu, ac felly'n mae'n rhaid i daflegryn o'r fath gael ei lansio o Orllewin Wcráin.[2] Ar 16 Tachwedd, datganodd Andrzej Duda, Arlywydd Gwlad Pwyl, a Jens Stoltenberg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, nad oedd tystiolaeth i ddangos bod y ffrwydrad o ganlyniad i ymosodiad uniongyrchol ar diriogaeth Gwlad Pwyl. Tybiodd Duda, "yr oedd lluoedd amddiffyn Wcráin yn lansio'u taflegrau i wahanol gyfeiriadau, ac mae'n debygol iawn i un o'r taflegrau hyn, yn anffodus, ddisgyn i diriogaeth Bwylaidd".[4] Ar 17 Tachwedd, datganodd Jakub Kumoch, cynghorydd polis tramor i'r Arlywydd Duda, yr awgrym swyddogol fod y taflegryn wedi camweithio trwy beidio ag hunanddinistro wedi iddo fethu â tharo'i darged, ac yna disgyn i'r ddaear a ffrwydro.[5] Fodd bynnag, gwadodd Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin, taw lluoedd arfog ei wlad oedd ar fai.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.