From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2018 byddai Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision i'w gynnal yn Minsk, Belarus a digwyddodd hynny yn 2018 a 2019. Y darlledwr S4C sy'n gyfrifol am drefniadau Cymru yn y gystadleuaeth.[1] Dewiswyd y cystadleuydd a gynrychiolodd Cymru drwy glyweliadau a ddangoswyd mewn cyfres o dair rhaglen deledu Chwilio am Seren.[2] Enillydd y gyfres ar 9 Hydref oedd Manw o Rostryfan gyda'r gân "Berta" a ysgrifennwyd gan Yws Gwynedd.[3] Daeth Cymru yn olaf yn y gystadleuaeth gyda 29 pwynt.[4]
Enghraifft o'r canlynol | cenedl yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision |
---|---|
Rhan o | Cystadleuaeth Junior Eurovision |
Gwefan | https://junioreurovision.tv/country/wales |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu Cymru yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth o'r blaen fel rhan o'r Deyrnas Unedig rhwng 2003 a 2005 drwy rwydwaith ITV. Dangosodd S4C ddiddordeb mewn cystadlu yng ngystadleuaeth 2008 yn Limassol, Cyprus, ond penderfynodd beidio a gwneud hynny.[5]
Blwyddyn | Artist | Cân | Iaith | Safle | Pwyntiau |
---|---|---|---|---|---|
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2018 | Manw | "Berta" | Cymraeg | 20 | 29 |
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2019 | Erin Mai | "Calon yn Curo" | Cymraeg | 18 | 35 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.