Y man lle mae dau asgwrn yn cyfarfod yw cymal.[1] Mae cymalau wedi eu llunio i alluogi symudiad rhwydd a darparu cefnogaeth mecanyddol i'r corff; cânt eu dosbarthu yn ôl eu strwythur a'u swyddogaeth.[2]
Dosbarthir cymalau yn saith dosbarth, yn ôl eu strwythur a'u swyddogaeth yn bennaf. Penderfynir y dosbarth strwythurol yn ôl sut mae'r esgyrn yn cysylltu â'i gilydd, tra bod y dosbarth swyddogaethol yn cael ei benderfynu yn ôl y raddfa o symudiad sydd i'w gael rhwng yr esgyrn ymgymalu. Mae gorgyffrydiiad arwyddocaol rhwng y saith dosbarthiad yn ymarferol.
Dosbarthiad strwythrol
Mae dosbarthiad strwythurol yn enwi ac yn gwahanu cymalau yn ôl sut maent yn cysylltu â'i gilydd.[3] Mae tri is-ddosbarthiad o gymalau strwythurol:
Cymal ffibrog - sy'n cysylltu gyda meinwe gyswllt ffibrog
Yn ogystal, gellir dosbarthu cymalau yn ôl eu swyddogaeth, yn ôl y raddfa o symudiad maent yn caniatáu:[4]
Cymal disymud (synarthrosis) - yn caniatáu ychydig iawn os unrhyw symudiad. Mae'r rhan fwyaf o gymalau disymud yn gymalau ffibrog (er enghraifft, llinellau asio y benglog).
Cymal lled-symudol (amffiarthrosis) - yn caniatáu ychydig o symudiad. Mae'r rhan fwyaf o gymalau lled-symudol yn gymalau cartilagaidd (e.e., fertebrâu).
Cymal symudol (diarthrosis) - yn caniatáu amryw o symudiadau. Mae pob cymal symudol yn gymal synofaidd (e.e., ysgwydd, clun, penelin, penglin ayb.), ac ystyrir y termau ‘diarthrosis’ a ‘synoffaidd’ i fod yn gyfwerth gan y Terminologia Anatomica.[5]
(Saesneg) Ellis, Harold; Susan Standring; Gray, Henry David(2005). Gray's anatomy: the anatomical basis of clinical practice.St. Louis, Mo:Elsevier Churchill Livingstone, tud.38. ISBN 0-443-07168-3