Cyfrifiadur personol

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cyfrifiadur personol

Math o gyfrifiadur bychan i'r unigolyn yw'r cyfrifiadur personol (PC), sy'n beiriant amlbwrpas. O'i gymharu â chyfrifiaduron sefydliadau a chwmniau enfawr e.e. y cyfrifiadur prif ffrâm, mae ei bris yn isel, a gall pobl heb hyfforddiant ei ddefnyddio: nid oes yn rhaid bod yn arbenigwr cyfrifiadur neu dechnegydd.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Cyfrifiadur personol
Thumb
Enghraifft o:class of computers 
Mathcyfrifiadur 
Dyddiad darganfod1957 
Yn cynnwysUned Brosesu Ganolog, cof cyfrifiadurol, motherboard, primary memory, power supply, computer monitor, bysellfwrdd, graphics card, computer case, llygoden, central unit 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Thumb
Myfyriwr yn gweithio ar gyfrifiadur personol yn Hacathon Prifysgol Abertawe; 28 Ionawr 2015.
Thumb
Yn aml, defnyddir y cyfrifiadur personol mewn sefydliadau fel ysgolion a cholegau, gan eu bod yn hawdd i'w trin ac yn gyfarwydd i'r defnyddiwr.

Roedd yn rhaid i berchnogion cyfrifiadurol sefydliadol neu gorfforaethol yn y 1960au ysgrifennu eu rhaglenni eu hunain i wneud unrhyw waith defnyddiol gyda'r peiriannau. Heddiw, er y gall defnyddwyr cyfrifiadur personol ddatblygu eu aps eu hunain, fel arfer mae'r systemau hyn yn rhedeg meddalwedd fasnachol neu feddalwedd ddi-dâl ("rhadwedd") neu feddalwedd am ddim o ffynhonnell agored (e.e. Wicipedia), a ddarperir ar ffurf parod. Yn aml datblygir a dosbarthir meddalwedd ar gyfer cyfrifiaduron personol yn annibynnol oddi wrth cynhyrchwyr y caledwedd neu'r system weithredu.[2]

Ar ddechrau'r 1980au datblygwyd y sglodyn silicon, a chrewyd microbroseswyr rhad, llawer llai na chynt. Dros amser, daeth y term "PC" yn fwy poblogaidd na'r term hwn a gyflwynwyd yn y 1970au, sef "meicrogyfrifiadur". Un o'r microgyfrifiaduron cyntaf yn ysgolion Cymru oedd y BBC Micro, a chafwyd papur Cymraeg gan MEU Cymru o'r enw Sglodyn.

Ers y 1990au, mae systemau gweithredu (OS) cyfrifiaduron personol yn nwylo Microsoft ac Intel i raddau helaeth, yn gyntaf gydag MS-DOS ac yna gyda Windows. Rhan fychan iawn o'r farchnad fydeang sydd gan gwmnïau fel Apple a'u system weithredu macOS a systemau rhydd ac agored fel Linux. O ran prosesyddion, yr unig opsiwn amgen yw AMD (Advanced Micro Devices).

Gellir ystyried datblygiad y cyfrifiadur personol yn rhan allweddol o'r chwyldro digidol a welwyd rhwng y 1980au a'r presennol (2019). Rhagwelwyd y chwyldro hwn o gysylltu cyfrifiaduron o fewn cartrefi gyda'i gilydd drwy'r we fydeang yn Y Cymro yn Ngorffennaf 1969[3][4]:

'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell. Neu gynllun pensaerniol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.