Tref yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Crawley.[1]
Math | tref, tref newydd |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Crawley |
Poblogaeth | 106,597 |
Gefeilldref/i | Dorsten, Alytus |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Sussex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 44.96 km² |
Yn ffinio gyda | Horley |
Cyfesurynnau | 51.1157°N 0.1937°W |
Cod OS | TQ269365 |
Mae Caerdydd 212.7 km i ffwrdd o Crawley ac mae Llundain yn 45.1 km. Y ddinas agosaf ydy Brighton sy'n 30.2 km i ffwrdd.
Tref Newydd Crawley
Roedd Crawley yn un o'r wyth tref newydd wreiddiol o amgylch Llundain, a gynlluniwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda'r nod o gael pobl i symud o'r ddinas orlawn i gefn gwlad. Roedd Llundain wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod y blitz ac roedd llawer o'i dinasyddion yn byw mewn amodau is-safonol neu slymiau.
Creodd y Llywodraeth wyth tref hunangynhaliol mewn cylch rhwng 20 a 30 milltir o ganol Llundain. Sef Basildon, Bracknell, Harlow, Hatfield, Hemel Hempstead, Stevenage, Welwyn Garden City a Crawley a ddynodwyd yn dref newydd ar Ionawr 9, 1947. [2]
Cynlluniwyd llawer o dref newydd Crawley gan y pensaer Cymreig Alwyn Sheppard Fidler [3]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.