From Wikipedia, the free encyclopedia
Crëwyd swyddi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, gydag etholiadau yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ar 15 Tachwedd 2012. Cynrychiolydd wedi ei ethol yw'r comisiynydd, sydd â chyfrifoldeb dros gadarnhau bod yr heddlu yn gweithredu yn effeithlon ac effeithiol mewn ardal blismona; maent yn disodli'r awdurdodau heddlu. Nid yw hyn yn effeithio ar Lundain sydd â threfniadau ar wahân, na'r Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r plismona wedi cael ei ddatganoli, a'r cyfrifoldeb gyda Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon mewn swydd debyg.
Math o gyfrwng | swydd |
---|---|
Math | police commissioner, swydd |
Rhagflaenydd | police authority |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ni ddylid cymysgu swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gyda'r rheng heddwas "Comisiynydd", a ddelir gan y prif swyddog heddlu yn yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Dinas Llundain (sy'n gwasanaethu'r ddwy ardal blismona yn Llundain).
Yn ymgyrch etholiad cyffredinol 2010, roedd y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnwys cynlluniau yn eu maniffesto, er mwyn disodli ac aildrefnu'r awdurdodau heddlu, gyda'r ddwy blaid yn codi eu pryderon ynglŷn â'r diffyg atebolrwydd a oedd i'w weld gyda'r awdurdodau i'r cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu. Yn dilyn yr etholiad, yn ôl Cytundeb clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol:
“ |
We will introduce measures to make the police more accountable through oversight by a directly elected individual, who will be subject to strict checks and balances by locally elected representatives.[1] |
” |
Ardal | Plaid | Comisiynydd | 5 Mai 2016 | |
---|---|---|---|---|
Heddlu Dyfed-Powys | Plaid Cymru | Dafydd Llywelyn | 5 May 2016 | |
Heddlu Gwent | Y Blaid Lafur | Jeffrey Cuthbert | 5 Mai 2016 | |
Heddlu Gogledd Cymru | Plaid Cymru | Arfon Jones | 5 Mai 2016 | |
Heddlu De Cymru | Y Blaid Lafur | Alun Michael | 5 Mai 2016 |
Ardal | Plaid | Comisiynydd | Etholwyd | |
---|---|---|---|---|
Heddlu De Cymru | Llafur | Alun Michael | 15 Tachwedd 2012 | |
Heddlu Dyfed-Powys | Ceidwadwyr | Christopher Salmon | 15 Tachwedd 2012 | |
Heddlu Gogledd Cymru | Annibynnol | Winston Roddick | 15 Tachwedd 2012 | |
Heddlu Gwent | Annibynnol | Ian Johnson | 15 Tachwedd 2012 | |
Ardal | Plaid | Comisiynydd | Etholwyd | |
---|---|---|---|---|
Heddlu Avon a Gwlad yr Haf | Sue Mountstevens | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Bedford | Olly Martins | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Caint | Annibynnol | Ann Barnes | 15 Tachwedd 2012 | |
Heddlu Cleveland | Barry Coppinger | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Cumbria | Richard Rhodes | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Derby | Alan Charles | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu De Swydd Efrog | Alan Billings | 30 Hydref 2014 | ||
Heddlu Dinas Llundain | Nid oes Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn hytrach mae Corfforaeth Dinas Llundain yn gweithredu fel y corff plismona. | |||
Heddlu Dorset | Martin Underhill | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Dyffryn Tafwys | Anthony Stansfield | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Dyfnaint a Chernyw | Tony Hogg | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Durham | Ron Hogg | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Essex | Nicholas Alston | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Gaer | John Dwyer | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Gaergrawnt | Graham Bright | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Gaerhirfryn | Clive Grunshaw | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Gaerloyw | Martin Surl | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Gaerlŷr | Clive Loader | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Hertford | David Lloyd | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Gogledd Swydd Efrog | Julia Mulligan | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Gorllewin Mercia | Bill Longmore | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Gorllewin y Canolbarth | David Jamieson | 21 Awst 2014[2] | ||
Heddlu Gorllewin Swydd Efrog | Mark Burns-Williamson | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Hampshire | Simon Hayes | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Humberside | Mathew Grove | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Manceinion Fwyaf | Tony Lloyd | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Lincoln | Alan Hardwick | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Merswy | Llafur | Jane Kennedy | 15 Tachwedd 2012 | |
Heddlu Metropolitan | Nid oes Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn hytrach mae Maer Llundain yn gweithredu'r swyddogaeth mewn effaith.[3] | |||
Heddlu Norfolk | Stephen Bett | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Northampton | Adam Simmonds | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Northumbria | Llafur | Vera Baird | 15 Tachwedd 2012 | |
Heddlu Swydd Nottingham | Paddy Tipping | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Stafford | Matthew Ellis | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Suffolk | Tim Passmore | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Surrey | Kevin Hurley | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Sussex | Katy Bourne | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Swydd Warwick | Ron Ball | 15 Tachwedd 2012 | ||
Heddlu Wiltshire | Ceidwadwyr | Angus Macpherson | 15 Tachwedd 2012 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.