coleg yn Pennsylvania From Wikipedia, the free encyclopedia
Coleg Americanaidd i ferched ydy Coleg Bryn Mawr (Saesneg: Bryn Mawr College); caiff ei ddisgrifio fel "coleg y celfyddydau rhyddfrydol". Mae wedi'i leoli ym Mryn Mawr, yn nhalaith Pennsylvania oddeutu 10 milltir i'r gorllewin o Pennsylvania yn Unol Daleithiau America.
Math | prifysgol, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, women's college, mynwent |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bryn Mawr, Dolgellau |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seven Sisters |
Lleoliad | Bryn Mawr |
Sir | Lower Merion Township |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 40.02639°N 75.31361°W |
Cod post | 19010 |
Sefydlwydwyd gan | M. Carey Thomas |
Yn ôl cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae i'r ardal hon arwynebedd o 0.6 milltir sgwar,[1] ac roedd yno boblogaeth o 21,485 gyda chyfartaledd incwm y bobl hyn yn $110,956.[2][3] sy'n ei gwneud yn un o ardaloedd mwyaf cefnog yr UDA.
Daw enw'r coleg a'r dref o'r Gymraeg. Cyflwynodd William Penn y tir i Rowland Ellis yn y 1680au; enw fferm Rowland Ellis yn Nolgellau oedd "Bryn Mawr". Mae Rowland Ellis, ei deulu a'r cyfnod yn cael ei ddisgrifio gan Marion Eames yn ei nofel hanesyddol Y Stafell Ddirgel. Arferai'r coleg i arddel cysylltiad cry gyda chrefydd y sefydlwyr hyn, sef Crynwriaeth, ond erbyn 1893 roedd wedi'i sefydlu'n goleg amlgrefydd.
Coleg Bryn Mawr oedd y coleg cyntaf o'i bath i gynnig gradd uwch (gan gynnwys doethuriaeth) i ferched yn yr Unol Daleithiau.[4] Bu'r mathemategydd Almaenig Emmy Noether yma'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd, ac yma y claddwyd ei gweddillion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.