Remove ads
cyfansoddyn cemegol From Wikipedia, the free encyclopedia
Lipis (braster) yw cholesterol. Caiff ei gynhyrchu yn yr afu o’r bwydydd bras a fwyteir gan yr unigolyn. Mae'n fraster pwysig ar gyfer gweithrediad normal y corff. Mae'n inswleiddio ffibrau’r nerfau. Mae'n floc adeiladu ar gyfer hormonau ac yn galluogi'r corff i gynhyrchu halwynau'r bustl. Mae lefelau uchel o lipidau yn y gwaed, hyperlipidemia, yn cael effaith difrifol ar iechyd unigolyn - mae'n cynyddu'r risg o drawiad ar y galon neu strôc..[1]
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | sterol |
Màs | 386.354866092 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₇h₄₆o |
Clefydau i'w trin | Anhwylder maeth |
Rhan o | cholesterol binding, cholesterol biosynthetic process, cholesterol catabolic process, response to cholesterol, cellular response to cholesterol, intestinal cholesterol absorption, cholesterol transport, lysosome to ER cholesterol transport, cholesterol transfer activity, triglyceride-rich plasma lipoprotein particle, cholesterol efflux, cholesterol import, cholesterol metabolic process, cholesterol biosynthetic process via 24,25-dihydrolanosterol, cholesterol biosynthetic process via desmosterol, cholesterol biosynthetic process via lathosterol, cholesterol homeostasis, cholesterol O-acyltransferase activity, cholesterol 25-hydroxylase activity, cholesterol 7-alpha-monooxygenase activity, cholesterol oxidase activity, cholesterol 24-hydroxylase activity, 7-dehydrocholesterol reductase activity, steryl-beta-glucosidase activity, cholesterol alpha-glucosyltransferase activity, steroid hydroxylase activity, cholesterol monooxygenase (side-chain-cleaving) activity, sterol transporter activity, cholesterol sulfotransferase activity |
Yn cynnwys | carbon, ocsigen, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r swm o golesterol yn y gwaed yn gallu amrywio rhwng 3.6 a 7.8 mmol/litr. Os yw'r swm yn fwy na 6 mmol/litr ystyrir bod y lefel yn uchel ac yn ffactor risg ar gyfer clefyd rhydwelïol. Mae cyngor iechyd y llywodraeth yn argymell cyfanswm targed o ran lefel cholesterol yn y gwaed o lai na 5. Yn y DU, mae gan ddau o bob tri oedolyn gyfanswm lefel cholesterol o 5 neu uwch. Mae gan ddynion yn Lloegr, ar gyfartaledd, lefel o 5.5, ac mae gan fenywod lefel o 5.6. Gall lefelau cholesterol uchel achosi culhau'r rhydwelïau (atherosglerosis), trawiadau ar y galon a strociau. Mae'r risg o glefyd coronaidd y galon yn cynyddu wrth i lefel y cholesterol gynyddu. Os oes gan unigolyn bwysedd gwaed uchel, ac mae'n ysmygu bydd hyn yn cynyddu'r risg yn fwy fyth.
Caiff cholesterol ei gario yn llif y gwaed gan foleciwlau a elwir yn lipoproteinau. Ceir tri phrif fath o lipoproteinau:
Mae angen prawf gwaed ar unigolyn i bennu eu lefel cholesterol. Cynhelir hwn ar ôl i'r unigolyn ymprydio am 12 awr fel y bydd yr holl fwyd wedi'i dreulio'n llwyr. Caiff y sampl gwaed ei archwilio yn y labordy patholeg i bennu faint o LDL, HDL a thriglyseridau sydd yn y gwaed. Mesurir cholesterol gwaed mewn unedau a elwir y milimolau i bob litr o waed (mmol/litr) Cyngor iechyd llywodraeth y DU yw y dylai unigolyn gael cyfanswm lefel cholesterol yn y gwaed o lai na 5 mmol/litr a lefel colestrol LDL o dan 3 mmol/litr. Gall unrhyw unigolyn gael prawf ar eu lefel cholesterol. Mae'n bwysig bod unigolion yn cael gwirio eu lefel cholesterol os:
Y driniaeth gychwynnol ar gyfer pobl sydd â lefelau uchel o golesterol yw newidiadau ffordd o fyw. Gall bwyta diet iach a chytbwys sy'n isel mewn braster dirlawn ac ymarfer corff leihau lefelau "cholesterol drwg" (LDL). Gall rhoi'r gorau i ysmygu hefyd helpu i atal cholesterol uchel rhag datblygu.
Os na fydd newidiadau ffordd o fyw yn lleihau'r lefelau cholesterol yn ddigonol gall meddyg ragnodi sawl math gwahanol o feddyginiaeth sy'n lleihau cholesterol ac sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd.
Y meddyginiaethau a ragnodir fwyaf cyffredin yw[2]:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.