hynafiaethydd a hanesydd lleol From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Gymru oedd Charles Octavius Swinnerton Morgan (15 Medi 1803 – 5 Awst 1888). Roedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig a chynrychiolodd Sir Fynwy yn Senedd Prydain Fawr am 33 o flynyddoedd rhwng 1841 a 1874; er hynny nid fel gwleidydd mae'n cael ei gofio'n bennaf ond fel hanesydd, hynafiaethydd a chymwynaswr i'r Amgueddfa Brydeinig.[1]
Charles Octavius Swinnerton Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1803 Casnewydd |
Bu farw | 5 Awst 1888 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Syr Charles Morgan, 2ail Farwnig |
Mam | Mary Margaret Stoney |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ganwyd Morgan yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd yn bedwerydd fab i Syr Charles Gould Morgan, 2il Farwnnig a Mary Magdelen (née Stoney) ei wraig. Brodyr iddo oedd Charles Morgan, Barwn Cyntaf Tredegar. roedd yn ewythr i Charles Rodney Morgan, Frederick Courtenay Morgan a Godfrey Charles Morgan
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1825 ac MA ym 1832.[2]
Roedd yn dibriod.
Gwasanaethodd Morgan fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy rhwng 1841 a 1874. Roedd bob amser yn Dori pybyr, yn pleidleisio gyda'i blaid yn ddieithriad; roedd yn erbyn diddymu'r Deddfau Yd, yn erbyn y Mesur Rhyddhad Catholig ac yn gwrthwynebu datgysylltu'r Eglwys Gwladol yng Nghymru a'r Iwerddon[3]. Yn etholiad 1874 ildiodd ei sedd i'w nai a'i gyd Dori, Frederick Courtenay Morgan
Roedd Morgan yn Gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a llywydd y Sefydliad Archeolegol. Gwasanaethodd fel is lywydd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr fwy nag unwaith a gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru1857-1858.
Roedd gan Morgan casgliad mawr o hynafolion yn ei dy The Friars, Casnewydd gan gynnwys pulpud Tuduraidd o'r hwn yr oedd yn aml yn pregethu i gynulleidfa o'i weision, morynion a gweithwyr yr ystâd.
Roedd yn gasglwr brwd o hynafolion mecanyddol megis cloeon, oriorau, offerynnau seryddol, ac awtomata gan gynnwys galiwn mecanyddol goreurog a roddodd i'r Amgueddfa Brydeinig[4].
Roedd ganddo gasgliad helaeth o fodrwyon esgobion a chasgliad o lwyau. Ar ôl ei farwolaeth cyflwynwyd rhan helaeth o'r casgliad i'r Amgueddfa Brydeinig trwy ei ewyllys[5]. Mae ei gasgliadau o ddogfennau hynafiaethol, a'i gyfieithiadau i'r Saesneg o farddoniaeth Cymraeg yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.[6]
Ysgrifennodd yn helaeth i gylchgronau am yr hynafiaethau a chyhoeddodd nifer o daflenni a llyfrynnau ar y pwnc gan gynnwys:[7]
Bu farw yn ei gartref the Friars o apoplecsi yn 84 oed[8]. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddrod y teulu yn Eglwys St Basil ym Masaleg yn Sir Fynwy[9]. Codwyd tabledi coffa efydd iddo yn eglwysi St Woollos, Casnewydd ac Eglwys Basaleg[10].
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.