From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd John Rackham ( 26 Rhagfyr, 1682 – 18 Tachwedd, 1720), a oedd yn cael ei adnabod fel Calico Jack, yn forleidr o Loegr a oedd yn gweithredu yn y Bahamas ac yng Nghiwba yn gynnar yn y 18g. Roedd ei lysenw'n deillio o'r dillad calico a wisgai, tra bod Jack yn foesenw ar gyfer "John".
Roedd Rackham yn weithgar rhwng 1718 a 1720, yn ystod "Oes Aur y Môr-ladron" a barhaodd rhwng 1650 a 1725. Fe'i cofir yn bennaf am gael dwy aelod benywaidd yn ei griw: Mary Read a'i gariad, Anne Bonny.
Diorseddodd Rackham Charles Vane o'i swydd fel capten y sloop Ranger, ac yna mordeithio Ynysoedd Leeward, Sianel Jamaica a'r Windward Passage. Derbyniodd bardwn ym 1719 a symudodd i New Providence, lle cyfarfu ag Anne Bonny, a oedd yn briod â James Bonny ar y pryd. Dychwelodd i fôr-ladrata ym 1720 trwy ddwyn sloop Prydeinig ac ymunodd Anne ag ef. Roedd eu criw newydd yn cynnwys Mary Read, a oedd yn cel-wisgo fel dyn ar y pryd. Ar ôl ychydig o lwyddiant, cipiwyd Rackham gan yr heliwr môr-ladron Llynges Frenhinol Prydain, Jonathan Barnet ym 1720.[1] Cafodd ei roi ar brawf gan Syr Nicholas Lawes, Llywodraethwr Jamaica, a chafodd ei grogi ym mis Tachwedd y flwyddyn honno yn Port Royal, Jamaica.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.