dinas yn Swydd Stafford From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas fechan a phlwyf sifil yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Caerlwytgoed (Lladin Letocetum; Saesneg: Lichfield).[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Lichfield. Saif 25 km (14 milltir) i'r gogledd o Birmingham. Mae'n enwog am ei chadeirlan, ac mae'n bwysig fel canolfan eglwysig, er nad yw wedi datblygu fel canolfan ddiwydiannol.
Wyneb gorllewinol cadeirlan Caerlwytgoed | |
Math | dinas, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Lichfield |
Poblogaeth | 33,816, 32,580 |
Gefeilldref/i | Limburg an der Lahn, Sainte-Foy-lès-Lyon |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Stafford (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 14.02 km² |
Uwch y môr | 81 metr |
Yn ffinio gyda | Longdon |
Cyfesurynnau | 52.6835°N 1.82653°W |
Cod SYG | E04008932 |
Cod OS | SK115097 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 32,219.[2]
Daw enw Lichfield o'r Frythoneg *Leitocaiton, enw yn cynnwys elfennau cytras â'r geiriau Cymraeg cyfoes llwyd a coed. Benthyciwyd yr enw hwn gan y Rhufeiniaid fel y Lladin Letocetum, a ddatblygodd i elfen gyntaf yr enw modern. Ychwanegwyd yr elfen field mewn Saesneg Canol. Cyfeirir at y ddinas ym marddoniaeth Hen Gymraeg fel Caer Lwytgoed, yn adlewyrchu tarddiad yr enw (Williams 1945: 6).
Cedwir Llyfr Sant Chad, llawysgrif Ladin sy'n cynnwys y darn hynaf Cymraeg ysgrifenedig mewn llyfr sydd wedi goroesi, yng nghadeirlan Caerlwytgoed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.