From Wikipedia, the free encyclopedia
Testun y llyfr Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru (Y Lolfa 1977) gan Kate Bosse-Griffiths yw archwiliad o hanes y Dyn Hysbys yng Nghymru, yn bennaf ar sail hanes dau Ddyn Hysbys: John Harries, Cwrt-y-cadno, a Dyn Hysbys dienw o Sir Ddinbych. Yn ogystal â hynny ceir trafodaeth ar ddewiniaeth o wahanol gyfnodau hanesyddol, yng Nghymru a thu hwnt, ac enghreifftiau o ymarferion, defodau a swynion.
Mae rhannau helaeth o'r llyfr yn edrych ar gynnwys Llyfr Cyfrin (sy'n debyg i Lyfr y Cysgodion yn Wica) o Sir Ddinbych. Ysgrifennwyd y Llyfr Cyfrin gan ddewin dienw oedd yn byw yn Sir Ddinbych yn y 19g gynnar. Casgliad o swynion yn Gymraeg a Saesneg ydyw, gyda'r defnydd yn amrywio o ddefodau i alw ar y Tylwyth Teg a swynion "dadreibio" Cymreig i ddefnydd Hermetig, defodau Enochaidd, daeargoel ac astroleg. Mae copi ar gael ar gais yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
I Rhagarweiniad: Y Lle Cynefin td 7
II Y Dyn Hysbys td 15
III Llyfr Cyfrin Y Dyn Hysbys td 38
IV Swyn a Llun td 51
V Iachau Swyngyfareddol td 68
VI Darogan td 82
VII Dirgelion td 94
VIII Y Gelfyddyd Ddu td 102
IX Y Tylwyth Teg td 116
Llyfryddiaeth td 135
Mynegai td 139
Rhestr Lluniau td 143
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.