Remove ads
Prif artist y symudiad celfyddyd Celf Op (optical art) From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Loegr yw Bridget Louise Riley (ganwyd 24 Ebrill 1931 yn Norwood, Llundain). Adnabyddir fel prif artist y symudiad celfyddyd 'Celf Op' (optical art).[1] Ar hyn o bryd mae hi'n byw ac yn gweithio'n Llundain, Cernyw a Ffrainc.[2]
Bridget Riley | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ebrill 1931 South Norwood, Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, cerflunydd, drafftsmon, cynllunydd, artist murluniau, arlunydd |
Blodeuodd | 2013 |
Arddull | celf haniaethol |
Mudiad | Celf Op, celf gyfoes, celf fodern |
Gwobr/au | CBE, Goslarer Kaiserring, Praemium Imperiale, Gwobr Sikkens, Rubenspreis, Urdd Cymdeithion Anrhydedd |
Roedd ei thad, John Fisher Riley, o Swydd Efrog yn wreiddiol, yn argraffwr fel oedd ei dad yntau. Ym 1938 symudodd ei fusnes a theulu i Swydd Lincoln.[3] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu rhaid i Bridget Riley, ei chwaer a mam fynd fel ifaciwis i Gernyw.[4]
Addysgwyd Bridget Riley yn Cheltenham Ladies' College ac wedyn yng Ngholeg Gelf Goldsmiths, Llundain (1949–52), a'r Royal College of Art, Llundain (1952–55).[5]
Rhwng 1956 a 1958 bu rhaid iddi ofalu am ei thad yn dilyn damwain car. Fe weithiodd yn rhan amser yn yr asiantaeth hysbysebu enwog J. Walter Thompson tan 1962. Ym 1958 fe gynhaliwyd arddangosfa bwysig o waith Jackson Pollock yn Llundain a gafodd ddylanwad mawr arni.[6]
Roedd gwaith cynnar Bridget Riley yn ffigurol, gyda steil wedi'i ddylanwadu gan Argraffiadaeth (impressionism), ond rhwng 1958 a 1959 datblygodd dechneg mwy 'pointillist'.[7] O dua 1960 datblygodd ei harddull 'Op' enwog gyda phatrymau a siapiau du a gwyn deinamig yn archwilio'r modd gall rhythmau o liw chwarae a drysu'r llygaid.[5]
Yn ystod y 1960au cynnar fe ddaeth Riley yn enwog am ei pheintiadau du a gwyn 'Op'. Gydag amrywiaeth eang o ffurfiau geometrig yn creu'r teimlad o symudiad neu liw. Bu rhai o ymwelwyr i'w harddangosfeydd yn dweud eu bod teimlo'n chwil neu'n disgyn trwy'r awyr.[8]
Mae'r gweithiau yma'n ymdrin â rhai cwestiynau'r cyfnod: yr angen i gynulleidfaoedd cymryd rhan yn nigwyddiadau celfyddydol; arbrofion gydag ehangu ymwybyddiaeth; a chreu moderniaeth.[9]
Wrth siarad am ei chelf mewn ffilm dywedodd Riley:
Mae rhythm ac ail-adrodd wrth wraidd symudiad. Maen nhw'n creu sefyllfa ble ynddi mae ffurfiau syml, elfennol yn dechrau gweithio'n weledol. Trwy eu casglu ac yn eu hail-adrodd, maent yn dod yn fwy amlwg. Mae ail-adrodd yn dod yn fath o 'ampliffyer' ar gyfer digwyddiadau gweledol sydd bron heb eu gweld ar ben eu hunain. Ond i wneud y ffurfiau elfennol yma cyflawni eu hegni gweledol, mae rhaid iddynt anadlu, fel petai – i agor ac i gau, neu i dynhau ac wedyn ymlacio. Mae rhythm sy'n byw'n gorfod newid cyflymdra a theimlad sut mae'r cyflymdra gweledol yn lledu ac yn crynhoi – weithiau i fynd yn araf ac weithiau’n sydyn. Mae rhaid i'r holl beth fyw. [10]
Nes ymlaen yn y degawd dechreuodd arbrofi gyda llwyd yn ychwanegol i'r du a gwyn ac ym 1967 gyda lliw llawn.[11] Fe'i hysbrydolwyd gan daith i'r Aifft a'r lliwiau a defnyddiwyd ar beintiadau hanesyddol a thirwedd gan ddatblygu palet o liwiau 'Eifftaidd' ar ddechrau'r 1980au[12] Yn ei chynfas Delos (1983), er enghraifft, mae gleision, turquoise, and a gwyrddion i'w weld bob yn ail gyda melynion cyfoethog, cochion a gwyn.[13]
Yn 2006, fe brynwyd ei Untitled (Diagonal Curve) (1966), cynfas du a gwyn gyda llinellau chwil, yn Sotheby's am $2.1 miliwn [14] Yn 2008, fe prynwyd Static 2 (1966) cynfas smotiog, am £1,476,500 ($2.9 miliwn).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.