From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Brian Wilson (ganwyd 13 Rhagfyr 1948). Bu'n Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur rhwng 1987 a 2005, a gwasanaethodd fel Gweinidog Gwladol rhwng 1997 a 2003 (Swyddfa Albanaidd 1997–1998, Adran Masnach a Diwydiant 1998–1999, Swyddfa Albanaidd 1999–2001, Swyddfa Tramor 2001 a Gweinidog Egni, Adran Masnach a Diwydiant 2001–2003). Pan sefodd i lawr fel gweinidog cyn gadael y Senedd, gofynnodd Tony Blair iddo weithredu fel Cynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog ar Fasnach Tramor.
Brian Wilson | |
---|---|
Ganwyd | Brian David Henderson Wilson 13 Rhagfyr 1948 Dunoon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Minister of State for Foreign Affairs, Gweinidog dros Fasnach, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Minister for Gaelic, Parliamentary Under-Secretary of State for Africa, Latin America and the Caribbean |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | CBE |
Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dunoon, Prifysgol Dundee a Choleg Prifysgol Caerdydd. Wilson oedd y golygydd a sefydlodd a gyhoeddodd y West Highland Free Press, ynghyd â thri ffrind o Brifysgol Dundee yn 1971. Roedd y papur newydd wedi ei seilio yn Kyleakin, Ynys Skye yn wreiddiol, ac mae'n dal i gael ei gyhoeddi o Broadford, Ynys Skye.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.