pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Plwyf eglwysig ym mhen Llŷn, Gwynedd, yw Bodferin. Mae'n gorwedd ym mhen eithaf Llŷn, i'r gorllewin o Aberdaron, dros y swnt o Ynys Enlli.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Cymydmaen. Arferai pererinion groesi'r swnt i Ynys Enlli o borthladd bychan Porth Ferin. Ceir Plas Bodferin yn y plwyf, tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o Aberdaron. Ceir Rhydmerin yno hefyd. Plwyf bychan iawn oedd Bodferin, dim ond tua milltir o hyd a thua'r un maint o led, yn rhedeg gyda'r môr.[1]
Ni wyddys pwy oedd 'Merin'. Ceir sawl person o'r enw yn hanes a thraddodiadau cynnar Cymru. Mae'n bosibl mai 'môr' neu 'morwr' yw'r ystyr yn hytrach nag enw personol: prif ystyr y gair Hen Gymraeg merin yw 'môr', o'r gair Lladin marinus (cf. Llŷr Marini).[2]
Bu Bodferin yn blwyf sifil yn yr hen Sir Gaernarfon tan iddo gael ei ymgorffori ym mhlwyf sifil Aberdaron yn 1934. Dim ond tua 30 o bobl a gofnodir yn byw yn y plwyf yn 1861.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.