Betty Ford

From Wikipedia, the free encyclopedia

Betty Ford

Gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Gerald Ford oedd Elizabeth Ann Bloomer Warren Ford, a oedd yn fwy adnabyddus fel Betty Ford (8 Ebrill 1918 8 Gorffennaf 2011[1][2]). Bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1974 tan 1977. Tra'r oedd yn Brif Foneddiges, bu'n weithgar o safbwynt polisi cymdeithasol a bu'n weithgar fel gwraig arlywyddol.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Betty Ford
Thumb
GanwydElizabeth Anne Bloomer Ford 
8 Ebrill 1918 
Chicago 
Bu farw8 Gorffennaf 2011 
Rancho Mirage 
Man preswylGerald R. Ford, Jr., House 
DinasyddiaethUnol Daleithiau America 
Alma mater
  • Prifysgol Bennington
  • Innovation Central High School 
Galwedigaethdawnsiwr, llenor, hunangofiannydd, model, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd 
SwyddPrif Foneddiges yr Unol Daleithiau, Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau 
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol 
PriodGerald Ford, William Warren 
PlantMichael Gerald Ford, John Gardner Ford, Steven Ford, Susan Ford 
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Gwobr Lasker-Bloomberg gwasanaeth cyhoeddus, Medal Aur y Gyngres, Medal Rhyddid yr Arlywydd 
llofnod
Thumb
Cau

Bu'n boblogaidd iawn er gwaethaf ei safiad rhyddfrydol ar faterion cymdeithasol. Ymgyrchodd dros nifer o faterion sensitif y dydd gan gynnwys cancr y fron yn dilyn ei mastectomi yn 1974, hawliau merched, ffeministiaeth, erthyliad, cyffuriau, cyflog cyfartal a thrwy wneud sylwadau ar faterion y dydd - rhywbeth nad oedd unrhyw Brif Foneddiges wedi'i wneud cyn hynny. Cyhoeddodd yn y 1970 iddi frwydro'n galed yn erbyn alcoholiaeth a chyffuriau.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.