pentref yn Swydd Amwythig From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Baschurch[1] (Cymraeg: Eglwysau Basa).[2] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Fe'i leolir tua 8 milltir i'r gogledd o dref Amwythig.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 2,857 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.7925°N 2.8541°W |
Cod SYG | E04011215, E04008391 |
Cod OS | SJ4259321413 |
Cod post | SY4 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,503.[3]
Cyfeirir at Baschurch dan ei hen enw Cymraeg, "Eglwysau Basa", ym mhennillion 45–51 o Canu Heledd, cyfres o englynion sy'n dyddio o'r 9g neu'r 10g.
eglwysseu bassa y orffowys heno,
y diwed ymgynnwys;
cledyr kat, callon argoetwis.eglwysseu bassa ynt ffaeth heno.
vyn tauawt a'e gwnaeth.
rud ynt wy, rwy vy hiraeth.eglwysseu bassa ynt yng heno
y etiued kyndrwyn[yn],
tir mablan kyndylan wynn.eglwysseu bassa ynt tirion heno,
ys gwnaeth eu meillyon.
rud ynt wy; rwy vyng callon.eglwysseu bassa collassant eu breint,
gwedy y[r] diua o loegyrwys
kyndylan ac eluan powys.eglwysseu bassa ynt diua heno;
y chetwyr ny phara.
gwyr a wyr a mi yma.eglwysseu bassa ynt baruar heno
a minneu wyf dyar.
rud ynt wy, rwy vyg galar.
Rhestrir y pentref fel Bascherche yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.