baner From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae baner Gwatemala (neu Guatemala) yn ddau lliw mewn tri band fertigol o faint cyfartal: mae'r band ganol yn wyn a'r ddau fand ucheben ac islaw yn las golau.
Yn draddodiadol, mae'r lliw glas golau, neu 'glas y nen', yn symboli'r cefnforoedd y Môr Tawel a'r Iwerydd sy'n ffinio'r wlad yma yng Nghanolbarth America, a'r gwyn yw purdeb gwerthoedd y genedl. Mewn gwirionedd, mae'r faner yn deillio o'r cyfnod yr oedd Gwatemala yn rhan o Unol Daleithiau America Ganol gan mai dyma oedd lliwiau wladwriaeth Canol America, a sefydlwyd am gynfnodau byrion wedi cwymp Ymerodraeth Sbaen yn yr America ar ddechrau'r 19g. Roedd fersiwn Guatemalan yn gosod y bandiau yn fertigol yn hytrach nag yn llorweddol fel y dyluniad gwreiddiol.[1]
Nodir bod lliwiau'r faner, a baneri eraill Canolbarth America, yr un lliw â rhai Ariannin ac Wrwgwái gan gael eu hysbrydoli gan y gwrth-ryfel dros annibyniaeth rhag Sbaen gan y mudiad yn Ne America.
Llwythir y band canolog gyda'r arwyddlun gyda'r quetzal, yr aderyn sy'n symboli rhyddid y Maya, a dyddiad 15 Medi 1821 sy'n cofio annibyniaeth Canol America oddi ar Sbaen. Ceir dau wn a dau gleddyf ar ffurf croes, er mwyn atgoffa'r gwyliwr o barodrwydd Gwatemala i amddiffyn ei hun ag arfau. Ond noder hefyd bod dau gangen olewydden yn nodi bod y wlad yn dal i fod o blaid heddwch.
Mae'r faner sifil yn hepgor yr arfbais yn y canol. Y faner sifil yw'r faner un â chwifir fel rheol gan bobl ac nid y wladwriaeth mewn sefyllfaoedd swyddogol.
Yn 2008 mabwysiadwyd baner sy'n cynrychioli y bobl frodorol a elwir Bandera de los pueblos, ynghyd â'r faner genedlaethol ym mhob digwyddiad y mae Arlywydd y Weriniaeth yn bresennol ynddi. Rhennir y faner yn bedair triongl o goch, melyn, gwyn a du sy'n cynrychioli pobl Xinca, Garifuna, Maya a Ladino (pobl 'mestizo', hynny yw, o dras brodorol a gwladychol Ewropeaidd) yn y drefn honno. Y symbol yn y canol yw'r Q'anil, fel 'hadyn' yn iaith y Maya ac un ddiwrnodau wythnos 20 diwrnod y Maya. Mae'r lliwiau hefyd yn cynrychioli cwmpawd y Maya gan ymgorffori elfennau natur a a dynol ryw.[2] Derbyniodd y faner ymateb llugoer gan y bobl frodorol gan na bu trafodaeth gyda nhw ar y dyluniad.
Oherwydd perthynas agos rhwng Gwatemala a gwledydd cyfagos yn sgil ceisio creu un wladwriaeth neu weriniaeth unedig, ceir tebygrwydd amlw rhwng baneri'r gwledydd o ran lliw a dyluniad:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.