From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Artes Mundi (Lladin: celfyddydau'r byd) yn arddangosfa a gwobr celf gyfoes a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghymru, wedi'i drefnu gan elusen celf ddielw o'r un enw.
Enghraifft o'r canlynol | gwobr, arddangosfa gelf |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2004 |
Lleoliad | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Caerdydd |
Gwefan | https://www.artesmundi.org/ |
Ers 2003 cynhaliwyd gwobr celf Artes Mundi bob dwy flynedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Y wobr yw'r wobr ariannol celf fwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda £40,000 yn cael ei roi i'r enillydd.[1] Er bod y wobr wedi cynnwys artistiaid sy'n defnyddio cyfryngau traddodiadol, fel paent, fel arfer dim ond rhan o'u harfer yw hyn, gyda'r dewis o gelf yn canolbwyntio ar ddulliau cysyniadol. Er bod yr arddangosfa yn digwydd yng Nghaerdydd, mae'r ffocws ar artistiaid rhyngwladol.[2][3]
Yn 2014/15, ehangodd Artes Mundi 6 y tu hwnt i'r Amgueddfa Genedlaethol a rhannwyd yr arddangosfa o waith ar y rhestr fer gyda Chapter Arts Centre, Caerdydd, ac Oriel Turner House, Penarth.[4]
Sefydlwyd Artes Mundi yn 2002 gan yr artist Cymreig William Wilkins.[5] Ei chyfarwyddwr artistig cyntaf a'r Prif Swyddog Gweithredol oedd Tessa Jackson, a oedd gynt yn Gyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau'r Alban. Yn 2010, penodwyd Ben Borthwick yn Gyfarwyddwr Artistig a Phrif Swyddog Gweithredol, ar ôl i Jackson adael i fynd yn bennaeth yr InIVA. Roedd rôl flaenorol Borthwick fel Curadur Cynorthwyol yn y Tate Modern. Yn 2013 daeth cyfarwyddwr newydd, Karen MacKinnon, gynt o Oriel Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd [6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.