Remove ads
cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd, gydag Arllechwedd Isaf a Nant Conwy, oedd Arllechwedd Uchaf. Fel gweddill y cantref, roedd yn rhan o Esgobaeth Bangor.
Math | cwmwd, gwrthrych daearyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Arllechwedd |
Sir | Gwynedd, Arllechwedd |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Arllechwedd |
Cyfesurynnau | 53.234676°N 4.011712°W |
Mae Arllechwedd Uchaf yn ardal fynyddig a garw a ddominyddir gan gadwyn hir y Carneddau, ond mae'n cynnwys llain o dir isel ffrwythlon ar hyd yr arfordir yn y gogledd, yn wynebu Bae Conwy rhwng Bangor a Penmaenmawr. Lleolid canolfan y cwmwd a phrif lys y cantref ei hun yn Garth Celyn, Abergwyngregin, efallai ar safle plasdy Pen y Bryn. Yn ddiweddarach tyfodd Abergwyngregin yn brif lys i Wynedd gyfan yn oes Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd.
Ffiniai'r cwmwd a chymydau Arllechwedd Isaf i'r dwyrain a Nant Conwy i'r de, ac â chantref Arfon (cwmwd Arfon Is Gwyrfai) i'r gorllewin gyda chwrs afon Ogwen a'r Glyderau yn dynodi'r ffin, a ymestynnai mor bell i'r de â Pen-y-gwryd yng nghanol Eryri. Gorweddai Capel Curig ar y ffin rhwng Arllechwedd Uchaf a Nant Conwy. Rhedai'r ffin rhwng Arllechwedd Uchaf ac Arllechwedd Isaf dros gymoedd dwyreiniol y Carneddau hyd lethrau Tal y Fan, gan gyrraedd y môr yn y Penmaen-bach (y penrhyn sydd rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy heddiw.
Roedd fferi brysur yn cysylltu'r cwmwd ag ardal Penmon ar Ynys Môn; rhaid oedd croesi Traeth Lafan gyda'r llanw allan i'w defnyddio. Rhedai'r hen ffordd Rufeinig rhwng Caer a Segontiwm dros Fwlch y Ddeufaen. Parheai'r ffordd yn llwybr pwysig yn yr Oesoedd Canol. Rhedai llwybr pwysig arall i fyny Dyffryn Ogwen i Gapel Curig. Mae'n ardal gyfoethog ei henebion, gan gynnwys safle bryngaer diflanedig Braich-y-Dinas a chylch cerrig y Meini Hirion ger llaw. Roedd y prif "drefi" canoloesol i gyd yn gorwedd ar y llain arfordirol ac yn cynnwys Cororion, Y Wig a Bodsilin, yn ogystal ag Abergwyngregin ei hun.
Erbyn heddiw mae rhan ddwyreiniol yr ardal yn gorwedd yn Sir Conwy tra bod y rhan ddwyreiniol yn gorwedd yn sir Gwynedd. Mae rhan helaeth y tir yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw ar y llain arfordirol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.