ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Ardal Hambleton (Saesneg: Hambleton District).
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
Prifddinas | Northallerton |
Poblogaeth | 91,134 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,311.2282 km² |
Cyfesurynnau | 54.334°N 1.429°W |
Cod SYG | E07000164 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Hambleton District Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,311 km², gyda 91,594 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Scarborough ac Ardal Ryedale i’r dwyrain, Dinas Efrog i’r de, Bwrdeistref Harrogate i’r de-orllewin, Richmondshire i’r gorllewin, a Bwrdeistrefi Stockton-on-Tees, Middlesbrough, a Redcar a Cleveland i’r gogledd.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Northallerton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bedale, Easingwold, Stokesley a Thirsk. Mae tua 75% o’r ardal ym Mroydd Mowbray ac Efrog, a 16% ym Mharc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.
Mae enw yr ardal yn dod o’r Bryniau Hambleton, rhan o’r Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog, sy i’r dwyrain o’r ardal.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.