asana, neu safle mewn ioga modern From Wikipedia, the free encyclopedia
Asana penlinio o fewn ioga yw Añjaneyāsana (Sansgrit: अञ्जनेयासन, yn llythrennol: "Asana Mab Anjani"), neu Leuad Cilgant,[1] neu weithiau Ashwa Sanchalanasana (asana Marchogol[2]). fe'i ceir o fewn ioga modern fel ymarfer corff yn hytrach na ioga myfyriol.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll, asanas penlinio |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i cynhwysir weithiau fel un o'r asanas yn y dilyniant Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul), gyda'r breichiau i lawr yn yr achos hwnnw.
Mae'r enw Anjaneya (neu Anjani) yn enw mamol ar gyfer Hanuman, y duw-fwnci Hindwaidd, a'i fam yw. Mae Hanuman yn ffigwr canolog yn yr epig Rāmāyaṇa, ac yn Iṣṭa-devatā pwysig mewn addoliad defosiynol.[3]
Fel llawer o asanas sefyll, roedd Anjaneyasana yn anhysbys yn ioga hatha canoloesol, ac fe'i tynnwyd gerfydd ei glustiau i fewn i ioga modern yn yr 20g o'i lencyndod fel rhan o grefft ymladd Indiaidd. Fe'i defnyddir mewn ysgolion ioga modern fel Ioga Sivananda.[1] Mae wedi'i gynnwys fel un o'r asanas yn nilyniant math 1 Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul) Ioga Ashtanga Vinyasa.[4]
Mae'r asana yn dilyn rhagwth (lunge), gyda'r pen-glin ôl wedi'i ostwng i'r llawr, y cefn yn fwaog a'r breichiau wedi'u codi a'u hymestyn dros y pen. Mae bysedd y toed cefn wedi'u pwyntio'n ôl mewn arddulliau fel Ioga Ashtanga Vinyasa ac ambell steil arall, a phen y droed ar y llawr. Mae'r droed blaen yn dal ar i fyny, y cluniau wedi'u gostwng yn agos at y droed flaen a'r pen-glin blaen wedi'i blygu'n llwyr ac yn pwyntio ymlaen. Yn yr asana llawn, mae'r droed ôl yn cael ei godi a'i afael â'r ddwy law, a'r penelinoedd yn pwyntio i fyny.[1][2][5]
Parivritta Anjaneyasana, asana paratoadol ar gyfer Parivritta Parsvakonasana (lle mae'r pen-glin cefn oddi ar y llawr),[6] yw'r ffurf tro. Yn, mae'r penelin gyferbyn â'r pen-glin blaen, a'r pen-glin cefn ar y llawr.[7][8]
Mae Utthan Pristhasana (Y Madfall), yn amrywiad gyda'r breichiau ar y llawr.[9]
O symud y droed flaen i'w ochr fel bod y pen-glin yn cusanu'r llawr, gellir symud yn daclus i osgo cysylltiedig, sef y Rajakapotasana.[1]
Mae rhai athrawon yn defnyddio'r enw Lleuad cilgant am rhagwth gyda'r pen-glin a'r dwylo wedi eu codi, fel yn Virabhadrasana I.[10] Defnyddia rhai'r enw Parivritta Anjaneyasana am Parivritta Parsvakonasana gyda phenelin i ben-glin.[11]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.