Angharad Mair

Cyflwynydd a chynhyrchydd teledu o Gymraes From Wikipedia, the free encyclopedia

Angharad Mair

Cyflwynydd teledu Cymreig, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr Tinopolis ydy Angharad Mair (ganed 30 Mawrth 1961)[1].

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Angharad Mair
Thumb
GanwydAngharad Mair Davies 
30 Mawrth 1961 
Dinasyddiaeth Cymru
Galwedigaethrhedwr marathon, newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, gweithredwr mewn busnes 
Cyflogwr
PlantTanwen Cray 
Chwaraeon
Cau

Ei bywyd cynnar

Ganwyd Angharad yng Nghaerfyrddin. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor.[2]

Gyrfa

Wedi gadael y coleg, daeth yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu i blant Bilidowcar pan ail-lansiwyd y rhaglen ar S4C ar 2 Tachwedd 1992. Gadawodd yn 1987 pan ymunodd â thîm newyddion y BBC[3]. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno'r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C. Bu hefyd yn cyflwyno ar Prynhawn Da, Wedi 3 a Wedi 7. Hi yw golygydd cyfres Heno.

Bywyd personol

Roedd yn 30 mlwydd oed cyn iddi ddechrau rhedeg ac yn 1997, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn Athens. Rhoddodd y gorau i redeg ers ei phedwardegau.[1] Mae'n briod â Jonathan Cray, sy'n gweithio fel dyn camera i Tinopolis ac mae dwy ferch ganddynt. Bu'r teulu yn byw am rai blynyddoedd yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg.[4] Yn 2020 symudodd i'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.[5]

Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[6]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.