gwladwriaeth bychan, sofran rhwng Ffrainc a Sbaen From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad fechan yn ne-orllewin Ewrop yw Tywysogaeth Andorra neu Andorra sy'n ffinio â Ffrainc a Sbaen. Wedi'i chuddio bron ym mynyddoedd y Pyreneau, mae tywysogaeth Andorra'n dibynnu ar y diwydiant twristiaeth yn bennaf. Gwlad yn llawn dyffrynnoedd cul a thirwedd fynyddig ydyw a'i phrifddinas yw Andorra la Vella, sef y brifddinas uchaf yn Ewrop o lefel y môr: 1023 m.[1] Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth y wlad yn 85,101 (2023)[2], sydd tua hanner maint Casnewydd.
Principat d'Andorra | |
Arwyddair | Virtus Unita Fortior |
---|---|
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran |
Prifddinas | Andorra la Vella |
Poblogaeth | 85,101 |
Sefydlwyd | |
Anthem | El gran Carlemany |
Pennaeth llywodraeth | Xavier Espot Zamora |
Cylchfa amser | CET, Ewrop/Andorra |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Països Catalans, De Ewrop |
Arwynebedd | 468 km² |
Yn ffinio gyda | Ffrainc, Sbaen, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 42.56°N 1.56°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Andorra |
Corff deddfwriaethol | Y Cyngor Cyffredinol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Cyd-Dywysog Ffrainc, Cyd-Dywysog Esgobol |
Pennaeth y wladwriaeth | Joan Enric Vives Sicília, Emmanuel Macron |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Andorra |
Pennaeth y Llywodraeth | Xavier Espot Zamora |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,325 million, $3,352 million |
Arian | Ewro |
Cyfartaledd plant | 1.27 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.858 |
Mae dros ddeng miliwn o dwristiaid yn heidio i'r wlad hon bob blwyddyn, fe'u denir gan sgïo, y tywydd braf a'r ystod eang o nwyddau rhad o gymharu â'r gwledydd sy'n ffinio â hi.
Ers dros saith gan mlynedd bellach, rheolir y wlad ar y cyd gan arweinydd Ffrainc ac Esgob Urgell o Sbaen. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993 gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol yno. Er bod y cyd-dywysogion yn dal i fod yn arweinwyr y wlad, rôl anrhydeddus sydd ganddynt mewn gwirionedd.
Ceir poblogaeth o 64,000 yn y wlad, er bod llawer o'r rheiny'n hannu o Sbaen yn wreiddiol. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg er bod Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg hefyd yn cael eu siarad. Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth ac mae Andorra'n un o'r gwledydd sy'n defnyddio'r Ewro. Mae'n cynhyrchu ei fersiynau eu hunan o'r darnau Ewro, fel pob un arall o'r gwledydd sy'n rhan o'r Ewro.
Mae cofnodion am fodolaeth Andorra fel gwladwriaeth yn dyddio i 1278 pan gafodd y wlad ei rhoi dan gyd-arglwyddiaeth Esgob Urgell, yn Sbaen, a'r Cownt de Foix yn Ffrainc (ac yn ddiweddarach Coron Ffrainc). Heddiw mae'r drefn yn dal i fodoli, er bod arlywydd Ffrainc wedi cymryd lle'r Goron ffiwdal. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993, gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol.
Mae Andorra yn un o wledydd lleiaf Ewrop a'r byd. Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Ewrop rhwng Ffrainc a Sbaen. Amgylchynir y wlad yn gyfangwbl bron gan fynyddoedd y Pyreneau, ac eithrio yn y de-orllewin lle mae Dyffryn Andorra yn ymagor i dalaith Lerida yn Sbaen.
Mae diwylliant Andorra wedi ei dylanwadu gan ei dau gymydog mawr, Ffrainc a Sbaen. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg, ond yn ogystal mae Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg yn cael eu siarad.
Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth Gatholig.
Twristiaeth yw'r sector pwysicaf o lawer yn economi Andorra. Mae awyr braf y mynyddoedd, y cyfe i sgïo, a'r ffaith fod prisiau'n llai yn Andorra nag yn Ffrainc a Sbaen, yn denu miloedd o bobl yno ar eu gwyliau. Mae'r wlad yn yr ardal Ewro.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.