From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Ammianus Marcellinus (fl.330-380) yn hanesydd iaith Ladin, a anwyd yn Antioch, yng ngogledd-orllewin Syria.
Roedd Ammianus o dras Roeg uchelwrol. Ar ôl gorffen ei addysg dechreuodd ar yrfa filwrol ac ymladdodd dan yr ymerodr Julian yn erbyn yr Alemanniaid a'r Persiaid.
Yn ei henaint ymddeolodd i Rufain ac yno, tua'r flwyddyn 390, cychwynodd ei lyfr ar hanes ymerodron Rhufain, yr Rerum Gestarum Libri, sy'n olrhain hanes yr ymerodron o Nerva (96 O.C.) hyd farwolaeth Valens, mewn 31 llyfr. Dim ond y llyfrau xiv-xxxi sydd wedi goroesi, am y cyfnod 353 hyd 378. Maent yn arbennig o bwysig fel ffynhonnell hanes am fod Ammianus ei hun yn llygad-dyst i nifer o'r digwyddiadau a ddisgrifir ynddynt.
Gellid ystyried ei waith fel parhad o hanes Tacitus, ac fe ymddengys fod Ammianus yn seilio ei arddull ar waith mawr yr hanesydd hwnnw. Fel Tacitus mae Ammianus yn dangos barn eglur ac annibynnol ac yn ceisio darganfod y gwirionedd. Er ei fod yn bagan mae'n deg i'r Cristnogion, er enghraifft. Serch hynny nid yw hanner mor diwylliedig â Tacitus. Roedd y Lladin yn ail iaith iddo ac mae ei waith yn dioddef o ramadeg ansicr, bombastiaeth a throeon ymadrodd trwsgl neu or-flodeuog.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.