From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r aligator yn grocodeiliad yn y genws Alligator o deulu Alligatoridae. Y ddwy rywogaeth sydd mewn bod yw'r aligator Americanaidd (A. mississippiensis) a'r aligator Tsieineaidd (A. sinensis). Yn ogystal â hynny, gwyddom o astudio olion ffosil bod nifer o rywogaethau o aligatorau bellach wedi diflannu. Ymddangosodd yr aligatorau cyntaf yn ystod y cyfnod Oligosen tua 37 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[1]
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | Ymlusgiad |
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Alligatorinae |
Dechreuwyd | Mileniwm 38. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r enw "aligator" fwy na thebyg yn ffurf o'r enw el lagarto, sy'n golygu 'madfall' yn Sbaeneg ac sydd wedi'i Saesnigeiddio. Dechreuodd y concwistadoriaid ddefnyddio'r enw Sbaeneg a dechreuodd ymfudwyr i Florida ei ynganu a'i sillafu fel 'aligator'.[2] Roedd sillafiadau cynnar yn y Saesneg hefyd yn cynnwys allagarta ac alagarto.[3]
Mae aligator Americanaidd maint llawn yn pwyso tua 360 kilogram (790 pwys) a thua 4.0 medr (13.1 troedfedd) o hyd, ond maen nhw'n gallu tyfu i 4.4 medr (14 troedfedd) a phwyso dros 450 kilogram (990 pwys).[4] Roedd y mwyaf sydd ar gofnod yn 5.84 medr (19.2 troedfedd) o hyd.[5] Mae'r aligator Tsieineaidd yn llai, yn anaml dros 2.1 medr (6.9 troedfedd) o hyd. Mae hefyd yn pwyso llai o lawer, gyda gwrywod ddim mwy na 45 kilogram (99 pwys) fel arfer.
Pan fydd aligators wedi tyfu, maen nhw'n ddu neu'n lliw brown olewydd tywydd gyda boliau gwyn, tra bod gan y rhai iau farciau gwyn a melyn trawiadol sy'n pylu dros amser.[6]
Nid yw cyfartaledd oes aligator wedi'i fesur ar gyfartaledd[7] Yn 1937, cafodd Sw Belgrade yn Serbia aligator maint llawn o'r enw Muja. Mae bellach o leiaf 80 mlwydd oed.[8] Nid oes ganddo gofnod dilys o ddyddiad ei eni, ond mae'n cael ei ystyried yn yr aligator hynaf sydd mewn caethiwed.[9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.