Aled Rhys Wiliam
bardd Cymreig, darlledwr ac academydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig, darlledwr a bardd Cymreig oedd Aled Rhys Wiliam (4 Rhagfyr 1926 – 1 Ionawr 2008).[1]
Ganed ef yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Athro Stephen J. Williams ac yn frawd i Urien Wiliam. Magwyd ef yn Abertawe, ac astudiodd Gymraeg, Lladin a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n ymchwilio i Gyfraith Hywel dan Idris Foster yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen, a chyhoeddodd argraffiad o Lyfr Iorwerth ym 1960.
Bu'n olygydd cynorwythol Geiriadur Prifysgol Cymru o 1954 ymlaen, ac yn 1956 daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Cyncoed, Caerdydd. Daeth yn gyflwynydd ar BBC Cymru, yn arbennig ar y rhaglen Heddiw. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984 am gerdd Y Pethau Bychein.
Cyhoeddiadau
- (golygydd) Llyfr Iorwerth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; adargraffiad 1979).
- Cywain (1995), casgliad o farddoniaeth
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.