From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Muhammad Ahmad al-Mahdi neu al-Mahdi (12 Awst 1844 – 22 Mehefin 1885) yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Prydain yn y Swdan.
Cafodd weledigaeth gyfriniol a chredodd mai ei genhadaeth oedd arwain ei bobl i ryddid. Datganodd ei fod y Mahdi a chywynodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth yr Aifft (a reolai Swdan yn enw Prydain). Cipiodd Khartoum o ddwylo'r Cadfridog Gordon ym mis Ionawr 1885 ond bu farw rhai misoedd yn ddiweddarach yn Omdurman, efallai o golera.
Cafodd y Mahdi ei ddemoneiddio gan haneswyr poblogaidd cyfnod yr ymerodraeth Brydeinig.
Ystyr y gair Arabeg al-Mahdi yw "Yr Un Sy'n Cael ei Dywys". Teitl crefyddol yn nhraddodiad Islam ydyw. Gellid cymharu'r cred yn y Mahdi â chred rhai Cristnogion yn ail-ddyfodiad y Meseia.
Mae tref Mahdia yn Tiwnisia yn dwyn yr enw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.