afon yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn ne Powys yw Afon Llia. Mae'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ceir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Fan Nedd a llechweddau gorllewinol Fan Dringarth yn y Fforest Fawr, lle mae nifer o nentydd yn ymuno i ffurfio'r afon. Mae'n llifo tua'r de am 5 km (3 milltir) cyn ymuno ag Afon Dringarth i ffurfio Afon Mellte.
Ffurfia Dyffryn Llia un o'r bylchau isaf dros y grib o dywodfaen sy'n ymestyn rhwng Llandeilo a'r Fenni. Ceir Maen Llia ym mlaenau'r dyffryn, carreg sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Yn ddiweddarach, roedd ffordd Rufeinig rhwng Castell-nedd ac Aberhonddu yn arwain trwy'r dyffryn, ac yn y 19g agorwyd ffordd dyrpeg rhwng Abertawe ac Aberhonddu trwy'r dyffryn. ceir maes parcio a safle picnic ym Mlaen Llia.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.