From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o daleithiau Indonesia yw Aceh, hefyd Nanggroë Aceh Darussalam. Mae'n ffurfio rhan fwyaf gogleddol ynys Sumatera, yn fras yr un diriogaeth a Swltaniaeth Aceh rhwng y 15g a'r 19g. Roedd y boblogaeth yn 4,031,589 yn 2005. Y brifddinas yw Banda Aceh.
Arwyddair | Pancacita |
---|---|
Math | talaith Indonesia |
Prifddinas | Banda Aceh |
Poblogaeth | 5,407,855 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Nova Iriansyah |
Cylchfa amser | UTC+07:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Acehnese, Indoneseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Indonesia |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 57,956 km² |
Uwch y môr | 125 metr |
Gerllaw | Cefnfor India, Bae Bengal, Culfor Malacca |
Yn ffinio gyda | Gogledd Sumatra |
Cyfesurynnau | 4.3°N 96.9°E |
Cod post | 23xxx, 24xxx |
ID-AC | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Aceh |
Pennaeth y Llywodraeth | Nova Iriansyah |
Crefydd/Enwad | Swnni, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Bwdhaeth |
Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Gogledd Sumatera yn y de. Bu llawer o ymladd yma yn erbyn yr Iseldirwyr yn y cyfnod trefedigaethol, ac yn ddiweddarach datblygodd mudiad cryf yn hawlio annibyniaeth oddi wrth Indonesia, yn cynnwys gwrthryfel arfog gan GAM, (Gerakan Aceh Merdeka, "Mudiad Aceh Annibynnol"). Dioddefodd Aceh yn fwy nag unrhyw ardal arall o effethiau'r tsunami ar 26 Rhagfyr 2004; er enghraifft, dinistriwyd Banda Aceh bron yn llwyr. Yn sgîl hyn, gwnaed cytundeb rhwng y cenedlaetholwyr a'r llywodraeth Indonesaidd oedd yn rhoi mesur helaeth o ymreolaeth i Aceh.
Mae bron y cyfan o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam.
Taleithiau Indonesia | |
---|---|
Aceh | Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Ardal Arbennig Yogyakarta | Bali | Bangka-Belitung | Banten | Bengkulu | Canolbarth Jawa | Canolbarth Kalimantan | Canolbarth Sulawesi | De Kalimantan | De Sulawesi | De Sumatra | De-ddwyrain Sulawesi | Dwyrain Jawa | Dwyrain Kalimantan | Dwyrain Nusa Tenggara | Gogledd Maluku | Gogledd Sulawesi | Gogledd Sumatra | Gorllewin Jawa | Gorllewin Kalimantan | Gorllewin Nusa Tenggara | Gorllewin Papua | Gorllewin Sulawesi | Gorllewin Sumatra | Jambi | Lampung | Maluku | Papua | Riau | Ynysoedd Riau |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.