From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn y crefyddau Abrahamig, proffwyd ac archoffeiriad Israelaidd oedd Aaron, brawd hŷn Moses, a flodeuai o bosib yn y 15g CC. Yn ôl y traddodiad Beiblaidd, efe oedd sefydlydd yr offeiriadaeth yn Israel hynafol. Mae'r holl wybodaeth amdano yn tarddu o destunau crefyddol, y Beibl Hebraeg yn bennaf, ac felly nid yw'n sicr os oedd Aaron yn ffigur hanesyddol ai beidio.
Ffenestr liw o Aaron yn Eglwys Gadeiriol Efrog | |
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol yn y Beibl |
---|---|
Crefydd | Iddewiaeth foesenaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl y Beibl Hebraeg, cafodd efe a'i chwaer hŷn Miriam eu magu gan dylwyth Lefi yng Ngosen, yn wahanol i Foses a gafodd ei fabwysiadu gan lys brenhinol yr Aifft. Siaradodd Aaron ar ran Moses pan alwodd yr hwnnw ar y pharo i ryddhau'r Israeliaid. Yn ôl y gyfraith a gyflwynwyd i Foses ym Mynydd Sinai, rhoddwyd yr offeiriadaeth i Aaron a'i ddisgynyddion, ac urddwyd Aaron felly yn Archoffeiriad cyntaf yr Israeliaid. Bu farw Aaron cyn i'r Israeliaid groesi Afon Iorddonen, a chafodd ei gladdu ym Mynydd Hor neu ym Moserah. Cyfeirir at Aaron hefyd yn y Testament Newydd ac yn y Corân.
Yn ôl yr achau a gofnodir yn Llyfr Exodus, meibion Amran, fab Lefi, o'i wraig Iochebed, chwaer Lefi, oedd Aaron a Moses (Exodus 6:20), ac Aaron yn deirblwydd yn hŷn na Moses (Exodus 7: 7). Cofnodir Miriam, merch Amran ac felly chwaer Aaron, yn Llyfr Cyntaf y Cronicl (6: 3). Yn ôl Llyfr Numeri, bu farw Aaron ym Mynydd Hor ac yno fe'i claddwyd; yn ôl Llyfr Deuteronomium, Moserah oedd man ei farwolaeth a'i fedd.
Cyfeirir ato unwaith yn unig yn holl lyfrau'r proffwydi (Micha 6:4).[1] Yn y Testament Newydd, cyfeirir at Aaron yn yr Efengyl yn ôl Luc, Actau'r Apostolion, a'r Llythyr at yr Hebreaid.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.